Llwybrau Cerdded
Taith 3 - Rhaeadr Fawr
Rhaeadr Fawr
Rhaeadr Fawr
-
Hyd: 4 milltir
-
Esgyniad: 693 troedfedd
-
Lluniaeth: Abergwyngregyn
Cefndir
“Roedd hi'n werth cerdded at y Rhaeadr Fawr. Nid oedd ganddi'r run pŵer gwyllt â'r Rhaeadr Ewynnol, ond roedd yn wych yr un fath gyda'i rhuban cul o ddŵr gwyn.” - o 'Here Be Dragons'
“Fe ddilynodd Llelo daith droellog y nant yn ôl at y rhaeadr sef Rhaeadr Fawr. Roedd gan y rhaeadr enw mwy addas arno na'r nant, gyda chwymp cul o ddŵr gwyn yn ymchwyddo mwy na chan troedfedd dros glogwyn tryloyw.” - o 'Falls the Shadow'
Mae'r Rhaeadr Fawr o fewn Gwarchodfa Natur Coedydd Aber ac yn fan dynodedig ar gyfer Cadwraeth Arbennig. Mae'r rhaeadr wrth droed mynyddoedd y Carneddau gyda dyffryn serth o goed yn arwain ato.
Y daith
O'r A55 gwyliwch allan am arwyddion i Abergwyngregyn ac wedi i chi dod oddi ar yr A55, trowch yn sydyn i'r chwith lle mae arwydd at faes parcio sy'n rhad ac am ddim. Mae yna hysbysfwrdd yma gyda gwybodaeth ddefnyddiol a map o'r teithiau cerdded. Ar gyfer y rhaeadr ei hun mae modd i chi gerdded i fyny ac i lawr eto (oddeutu 4 milltir) neu o'r rhaeadr gallwch fynd ar daith cerdded sy'n mynd mewn cylch ac sy'n arwain i ochr arall y dyffryn ac yn ôl at y pentref.
Wrth i chi gychwyn cerdded trwy'r pentref, cadwch lygad allan am gapel ar y dde. Gyferbyn â'r capel, tu ôl i'r tai, mae twmpath o ddaear gyda thop fflat - dyma safle Castell Aber ac roedd llys Llywelyn yn Abergwyngregyn yn y cae o flaen y twmpath. Ar gyfer mannau eraill o ddiddordeb yn Abergwyngregyn ac o amgylch y pentref gweler y teithiau gyrru.
Os ydych chi eisiau cwtogi eich taith gerdded, mae modd i chi gychwyn o'r maes parcio ym Mhont Newydd. Wrth i chi ddod oddi ar yr A55, gyrrwch ymlaen trwy'r pentref. Gallwch barcio yn y maes parcio gwaelod, neu efallai bydd yn rhaid i chi ddilyn y ffordd i'r chwith dros y bont ac yna troi i'r dde i'r ail faes parcio. Os ydych chi'n cychwyn o'r maes parcio gwaelod dilynwch y llwybr sy'n dilyn y nant nes i chi gyrraedd pont droed sy'n arwain at lwybr lletach gyda giât fawr. Os ydych chi'n cychwyn o'r ail faes parcio mae'n rhaid i chi ddychwelyd ar hyd y ffordd y daethoch chi nes bod y ffordd yn troi i'r chwith a byddwch yn mynd trwy giât fawr.
Tydi'r llwybr o hyn ymlaen ddim angen cyfeiriadaeth am ei fod yn weddol syml i'w ddilyn cyn belled eich bod chi'n aros ar y llwybr gan fod cwpl o ffyrdd eraill yn arwain trwy'r coed pinwydd ond mae'r rhain yn fwy serth.
Yr unig beth i gadw llygad amdano yw'r cwt sydd gydag arddangosfa fechan ynddo oddeutu hanner ffordd drwy'r daith.
Mae'r Rhaeadr Fawr yn ysblennydd, ond cofiwch fod y dŵr yn tasgu ymhell o'r rhaeadr ei hun a bod y creigiau islaw'r rhaeadr yn llithrig gydag algâu arnynt.
Er mwyn ehangu ar y daith, croeswch y bont bren a dilyn y llwybr sy'n dweud Llwybr Gogledd Cymru - mae'r llwybr yma yn eithaf garw. Mae rhaeadr arall oddeutu chwarter milltir i ffwrdd.
Wedi hynny, rydym yn awgrymu'r caffi sydd yng nghanol y pentref!
Rhestr o Itemau - Llwybrau Cerdded
Taith 1 – Eglwys Llanrhychwyn, Trefriw
Cerddwch yng nghamau Llywelyn Fawr a Siwan i gyrraedd yr eglwys ysbrydol a dyrchafol yn Llanrhychwyn.
Manylion
Taith 2 - Castell Dolwyddelan
Mwynhewch y golygfeydd o Gastell Dolwyddelan a Dyffryn Lledr ar y daith yma.
Manylion
Taith 3 - Rhaeadr Fawr
Ymwelwch â’r Rhaeadr Fawr ysblennydd yn Abergwyngregyn a dilyn camau Llywelyn Fawr a’i ŵyr Llywelyn ap Gruffydd. (Dach chi ar y dudalen hwn).
www.princesofgwynedd.com
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwestai Betws-y-Coed a'r Cylch