tywysogion gwynedd

Llwybrau Cerdded

Taith 2 - Castell Dolwyddelan

Castell Dolwyddelan

Castell Dolwyddelan

  • Hyd: 4.7 milltir - Corsiog a serth mewn mannau
  • Esgyniad: 1,036 troedfedd
  • Lluniaeth: Pentref Dolwyddelan

Cefndir

“Roedd golau llwyd y wawr yn goleuo copa mynyddoedd Eryri gyda'r eira arnynt, yn troi'r llynnoedd crisialog o fewn y mynyddoedd uchel yn rhew glas disglair, a'r diwrnod ar gychwyn yn nyffryn Lledr gyda'r castell yn sefyll yn rhonc, yn gwylio, yng nghysgod Moel Siabod.” - o 'Here Be Dragons'

Wrth reswm fe gafodd y Ffyrdd Rhufeinig neu Sarn Helen eu hadeiladu gan y Rhufeiniad ond bu Tywysogion Gwynedd yn eu defnyddio, a defnyddir hwy hyd heddiw. Roedd y daith o Ddolwyddelan i'r de yn gysylltiad pwysig rhwng Gogledd a De Cymru ac yma hefyd oedd byddinoedd Ceredigion a'r Deheubarth yn gorymdeithio yn erbyn lluoedd Gwynedd, gyda byddin Gwynedd yn mynd ymlaen i orchfygu Cymru gyfan.

Y daith

Parciwch eich car ym maes parcio Castell Dolwyddelan. O'r maes parcio, croeswch y ffordd a cherdded ar hyd y ffordd sy'n mynd i gyfeiriad de gorllewinol o bentref Dolwyddelan. Wedi oddeutu hanner milltir, trowch i'r dde ar lwybr cerdded sydd gydag arwydd. Ar y fforch trowch i'r chwith sy'n eich arwain i fferm Bertheos a dilynwch y saethau sy'n arwain i'r dde.) Ewch trwy'r giât gyda'r saethau arno a dilyn y llwybr at giât ddwbl lle mae'r llwybr yn amlwg yn y cae.

Dilynwch y llwybr i fyny'r allt- byddwch yn mynd trwy ddwy giât arall ac yna at gamfa. Parhewch i fyny'r llwybr a bydd giât arall - cofiwch edrych tu ôl i chi yn achlysurol i fwynhau'r olygfa! Y gadwyn o fynyddoedd gyda'r pedwar copa yw mynyddoedd Eryri. Pan mae'r llwybr yn mynd i gyfeiriadau gwahanol, ewch ar y llwybr i'r chwith a dilyn y nant at y gamfa arall. Mae'r llwybr yn culhau ryw fymryn yma ond yn dal i fod yn gymharol amlwg. Byddwch yn cyrraedd camfa arall sy'n arwain i'r coed.

Mae'r llwybr trwy'r coed yn eithaf serth. Pan fyddwch yn dod ar draws y trac, ewch yn syth yn eich blaen a dilyn y llwybr cerdded gydag arwydd sy'n dod allan ar y ffordd ger dŷ Tan-y-Bwlch. Dyma ffordd Rufeinig. Wrth i chi fynd lawr y ffordd yma, byddwch yn dod ar draws tŷ hir o'r 15fed Ganrif o'r enw Tai Penamnen*.

Dilynwch y trac i lawr yr allt a throi i'r chwith a chroesi'r rheilffordd gan ddilyn y ffordd i mewn i bentref Dolwyddelan. Mae lluniaeth ar gael yn y pentref.

Byddwch yn ail-ymuno gyda'r A470 wrth dafarn Y Gwydyr. Trowch o'r chwith a dilynwch y ffordd. Pan gyrhaeddwch chi gofadail ar yr ochr chwith, mae'r ffordd yn mynd dros y nant ac mae giât ar y chwith. Y bryncyn creigiog sydd wedi ei orchuddio gan goed pinwydd yw safle Castell Tomen. Mae modd i chi gerdded lawr y llwybr cerdded yma i fynd yn nes ond nid oes modd mynd at y safle ei hun.

Honnir mai yng Nghastell Tomen y cafodd Llywelyn Fawr ei eni. Yn ôl traddodiad y castell yma o ddaear a choed a oedd yn sefyll ar fryncyn ar waelod y dyffryn oedd rhagflaenydd y castell carreg yn Nolwyddelan. Heddiw mae'r twmpath neu domen wedi ei orchuddio gan goed a llystyfiant. Mae olion tŵr hirsgwar ar y brig.

Parhewch i ddilyn yr A470 yn ôl i Gastell Dolwyddelan. Cymerwch fantais o'r cyfle i fynd i fyny at y castell er mwyn mwynhau'r lleoliad ysblennydd.

Cafodd Castell Dolwyddelan ei adeiladu rhwng oddeutu 1210 a 1240 gan Llywelyn Fawr fel caer i'r tywysogion Cymreig cynhenid. Roedd y tŵr sgwâr yn rheoli bwlch strategol drwy'r mynyddoedd ac mae modd ei weld am filltiroedd. Ychwanegwyd llen maen at y gorthwr hirsgwar allan o garreg yn 13eg ganrif er mwyn amgylchynu'r beili. Bu'r castell yn gwasanaethu yn y 13eg ganrif wrth i'r Cymry frwydro yn erbyn Edward I. Collodd y Cymry'r castell i ddwylo'r Saeson yn 1283 a chafodd ei atgyfnerthu gydag ail dŵr hirsgwar sydd bellach yn adfeilion.

CADW

* Wedi iddo adael ei gyn gartref yng Nghastell Dolwyddelan fe adeiladodd Meredydd ap Ieuan (yn ôl y sôn) dŷ ym Mhenamnen yn niwedd y 15fed ganrif. Mae cloddio diweddar ar y safle yn dangos fod tŷ cynharach wedi bod yma a bod Meredydd wedi ychwanegu at yr adeilad hwnnw. Roedd tad Meredydd, Ieuan ap Robert yn byw yng Nghesail Gyfarch (SH 540417) rhwng Tremadog a Dolbenmaen, lle bu farw yn ifanc, yn drideg oed, o'r Pla Du. Roedd Meredydd yn hen daid i Syr John Wynn o Wydir. Fe ail adeiladodd yr hen eglwys yn Nolwyddelan, o'i safle presennol ym Mryn y Bedd (SH 732523). Roedd hefyd y cyntaf o deulu'r Wyniaid i fyw ac i ehangu Castell Gwydir yn Nyffryn Conwy.

Rhestr o Itemau - Llwybrau Cerdded

Taith 1 – Eglwys Llanrhychwyn, Trefriw

Cerddwch yng nghamau Llywelyn Fawr a Siwan i gyrraedd yr eglwys ysbrydol a dyrchafol yn Llanrhychwyn.
Manylion

Taith 2 - Castell Dolwyddelan

Mwynhewch y golygfeydd o Gastell Dolwyddelan a Dyffryn Lledr ar y daith yma. (Dach chi ar y dudalen hwn).

Taith 3 - Rhaeadr Fawr

Ymwelwch â’r Rhaeadr Fawr ysblennydd yn Abergwyngregyn a dilyn camau Llywelyn Fawr a’i ŵyr Llywelyn ap Gruffydd.
Manylion

Gwybodaeth Cysylltu

Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod:

Ffôn: 01690 710601
E-bost:
info at princesofgwynedd dot com

www.princesofgwynedd.com

pen y dudalen pen y dudalen argraffu’r dudalen hon argraffu'r dudalen hon