tywysogion gwynedd

Llwybrau Cerdded

Taith 1 – Eglwys Llanrhychwyn, Trefriw

Eglwys Llanrhychwyn

Eglwys Llanrhychwyn

Rhaeadr y Tylwyth Teg

Rhaeadr y Tylwyth Teg

  • Hyd: 4 milltir - serth mewn rhai rhannau. Caniatewch 2½ i 3 awr
  • Esgyniad: 989 troedfedd
  • Lluniaeth: Trefriw

Cefndir

“Roedd eglwys fechan Rhychwyn yn oer a llonydd. Doedd offeiriad y plwyf ddim yno hyd yn oed i darfu ar Siwan.......... Rwyf angen unigedd Llanrhychwyn ac angen yr amser hynny ar fy mhen fy hun i weddïo am y rhai rwy'n ei garu ...... ac i gofio.” - o 'Here Be Dragons'

Dyma daith gerdded bleserus drwy'r coed gyda golygfeydd dros Ddyffryn Conwy a byddwch yn pasio hen weithfeydd mwyngloddio cyn cyrraedd Eglwys Llanrhychwyn. Mwynfeydd plwm a sinc yn bennaf oedd y mwynfeydd o'r 18fed Ganrif.

Sefydlwyd Eglwys Llanrhychwyn yn y 6ed Ganrif ac yn ystod amser Llywelyn Fawr yn y pentref roedd Llanrhychwyn yn fwy na Threfriw. Mae rhannau hynaf yr eglwys yn dyddio'n ôl i ddiwedd y 11eg neu gychwyn y 12fed Ganrif. Credir fod cloch yr eglwys yn dod o'r 14eg Ganrif a'i fod wedi dod o Abaty Maenan. Fe gefnogodd Llywelyn Fawr y mynaich o Abaty Aberconwy (a gafodd eu symud yn ddiweddarach i Abaty Maenan) ac yn ôl y sôn roedd ei ddylanwad wedi arwain at ychwanegiad y côr .

Y daith

Mae'r daith yma yn dilyn Llwybrau Trefriw sydd gydag arwyddion. http://www.trefriwtrails.org.uk

O'r maes parcio yng nghanol y pentref, croeswch y brif ffordd o flaen y Felin Wlân a throi i'r dde. Ar ddiwedd y rhes o siopau gyferbyn â Gwesty'r Fairy Falls trowch i'r chwith a cherdded i fyny'r allt. Wedi ychydig lathenni, trowch i'r chwith ar Lwybr 4 fydd yn eich arwain chi at Raeadr y Tylwyth Teg.

O'r Rhaeadr dringwch i fyny at y bont droed a dilyn yr arwyddion ar gyfer Llwybr 5. Mae Llwybr 5 yn eich arwain i fyny i'r coed uwchben y pentref ac yn dringo bob yn dipyn 680 troedfedd uwchben Trefriw cyn bod Llwybr 8 yn ymrannu i fyny llethr serth at glwstwr o dai ym Mhenrallt.

O fan hyn cadwch lygad allan am arwyddion Llwybr Trefriw - mewn un man mae arwydd am ‘Llanrhychwyn/Trefriw' sy'n pwyntio i'r chwith ond mae angen i chi ddilyn yr arwydd i'r dde ar gyfer yr eglwys. O fan hyn mae'r llwybr yn troelli o amgylch cymuned Llanrhychwyn, yn cynnwys y cyfle i gael golwg ar yr eglwys enwog o'r 6ed Ganrif. Yn ystod y 19eg ganrif roedd poblogaeth Llanrhychwyn yn fwy na phoblogaeth Trefriw gyda 87 o dai wedi eu cofnodi a phoblogaeth o 376. Erbyn 1851, roedd y boblogaeth wedi cynyddu i 586, o ganlyniad, yn bennaf, i'r diwydiant mwyngloddio llewyrchus.

Mae Llwybr 8 o Eglwys Llanrhychwyn yn eich arwain i Goedwig Gwydir cyn cyrraedd ffordd gul ac yna llwybr sy'n arwain i lawr (yn serth mewn mannau) trwy'r coed i lawr at waelod Dyffryn Conwy. Mae'r llwybr yn croesi'r B5106 (ffordd Trefriw i Lanrwst). RHYBUDD: Gall y ffordd yma fod yn beryglus ac mae angen cymryd gofal wrth groesi. Mae Llwybr 8 yn eich arwain ar hyd trac fferm (anwybyddwch yr arwydd ar gyfer troi i'r dde - nid arwydd Llwybr Trefriw yw hwn) sy'n llwybr cerdded cul, ac yna ar y Cob (amddiffynfa rhag llifogydd) ac ar hyd yr Afon Conwy at y bont grogi. Er mwyn dychwelyd i Drefriw dilynwch Lwybr 1 neu ymestyn eich taith drwy ddilyn Llwybr 2 mewn cylch yn ôl i'r pentref.

Rhestr o Itemau - Llwybrau Cerdded

Taith 1 – Eglwys Llanrhychwyn, Trefriw

Cerddwch yng nghamau Llywelyn Fawr a Siwan i gyrraedd yr eglwys ysbrydol a dyrchafol yn Llanrhychwyn. (Dach chi ar y dudalen hwn).

Taith 2 - Castell Dolwyddelan

Mwynhewch y golygfeydd o Gastell Dolwyddelan a Dyffryn Lledr ar y daith yma.
Manylion

Taith 3 - Rhaeadr Fawr

Ymwelwch â’r Rhaeadr Fawr ysblennydd yn Abergwyngregyn a dilyn camau Llywelyn Fawr a’i ŵyr Llywelyn ap Gruffydd.
Manylion

Gwybodaeth Cysylltu

Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod:

Ffôn: 01690 710601
E-bost:
info at princesofgwynedd dot com

www.princesofgwynedd.com

pen y dudalen pen y dudalen argraffu’r dudalen hon argraffu'r dudalen hon