tywysogion gwynedd

Ffeiloffaith

Tywysogion Gwynedd a’r Eglwys Gan A. D. Carr

Nid yw’n hawdd i ni ddeall y berthynas rhwng yr eglwys a’r wladwriaeth yng Nghymru cyn y Normaniaid.  Fel rheol mewn cymdeithas y mae’n weddol hawdd diffinio cylch awdurdod y nail a’r llall, ond yng Nghymru a’r gwledydd Celtaidd eraill perthynas gyfrodedd annatod ydoedd.  Gan fod yr awdurdod eglwysig a’r awdurdod secwlar wedi eu cyfuno i’r fath raddau, golygai hwn na fu unrhyw esgob mawr ym rym gwleidyddol, ac ni gydweithiodd yr un esgob â’r brenin i ddod â diwygiadau Wynedd gyn-Normanaidd fel y gwnaeth Dunstan yn Lloegr.  Yr oedd patrwm y gyfundrefn eglwysig hyd yn oed yn wahanol.  Nid oedd sôn am eglwys gadeiriol, am esgobaeth diriogaethol ac am blwyf; ym mhob teyrnas ceid esgob a oedd yn aelod o’r llys ac yn gaplan a chyffeswr i’r brenin.  Daeth eglwysi mawr fel Bangor a Chlynnog Fawr yn gyfoethog drwy haelioni cyfres o frenhinoedd, ac fe’u hystyriwyd fel rhan o etifeddiaeth teulu’r sawl a’u sefydlodd.

 

Bu cyfnod o ddiwygio yn eglwys y Gorllewin yn ystod yr unfed ganrif a’r ddeg a’r ddeuddegfed ganrif, a daeth y gyfundrefn eglwysig yn y byd Celtaidd i gydymffurfio â’r gyfundrefn yng ngweddill Ewrob.  Fel canlyniad ffurfiwyd esgobaethau tiriogaethol, a daeth yr esgob yng Ngwynedd yn esgob Bangor, â’i gadair esgobol yn yr eglwys yno; daeth y corf o ganoniaid a berthynai i eglwys Deiniol yn gabidwl yr eglwys gadeiriol.  Esgob cyntaf Bangor, fel y deallwn ni’r teitl, oedd David y sgotyn, a gysegrwyd yn 1120.  Ef a ddechreuodd adeiladu eglwys gadeiriol newydd ar y safle lle saif yr eglwys bresennol.  Gyda’r newidiadau hyn yng nghyfundrefn yr eglwys Gymreig, daeth newid hefyd yn agwedd archesgob Caergaint tuag ati.  Ceisiodd y nail archesgob ar ôl y llall estyn eu hawdurdod swyddogol dros yr esgobaethau Cymreig, ac er iddynt lwyddo yn y diwedd gwrthryfelodd y Cymry yn hir yn eu herbyn.  Yng Ngwynedd yr oedd hawl Caergaint yn fater o bwys cyfansoddiadol, gan nad oedd y deyrnas honno o dan awhurdod brenin Lloegr mewn unrhyw fodd; fel canlyniad bu dadlau bob tro yr âi esgobaeth Bangor yn wag yn ystod y ddeuddegfed ganrif.  Nid oedd esgob ym Mangor rhwng 1109 a 1120 am na allai Gruffydd ap Cynan o Wynedd a Harri I gytuno ar ymgeisydd addas; ni fedrai’r un o reolwyr Gwynedd dderbyn unrhyw ymyrraeth o’r tun allan oherwydd eu perthynas arbennig â’r esgob.  Bu cyfaddawd yn 1120 pan gytunodd y ddwy ochr i ddewis David y Sgotyn, ysgolhaig o fri a Chymro, mae’n fwy na thebyg.  (Ar y Cyfandir gelwid pob Celt yn Sgotyn.)  Bu David yn feistr ar ysgol yr eglwys gadeiriol yn Würzburg yn yr Almaen, a gwasanaethodd yr ynherodr Harri V, mab-yng-nghyfraith y brenin Harri.

 

Bu perthynas ardderchog rhwng David a’r Brenin Gruffydd, a fu farw yn 1137, gan adael rhoddion i Fangor a llawer eglwys arall yng Ngogledd Cymru, ond bu farw David yntau yn 1139.  Etholwyd rhyw Feurig yn esgob, ac yn ei gysegriad rywsut fe’i cafwyd i dyngu llw o fyddlondeb i frenin Lloegr.  Er gwaethaf gwrthwynebiad Owain Gwynedd, olynedd Gruffydd ap Cynan, arhosodd Meurig ym Mangor hyd ei farwolaeth yn 1161, ac erbyn hynny yr oedd Owain mewn safle i gael ei ffordd ei hun.  Ceisiodd yr archesgob, Thomas Becker, a’r Pab berswadio Owain i dderbyn awdurdod Caergaint, ond yn ofer.  Codasant y mater o’i briodas â’i gyfnither Cristin; ar ôl dadl hir a chwerw bu farw Owain yn ysgymun yn 1170.  Parhaodd yr esgobaeth heb esgob hyd 1177; ailgodwyd y ddadl pan fu farw’r esgob Gwion yn 1190, ond erbyn dechrau’r ganrif ganlynol daeth i ben, ac ni fu rhagor o ddadlau â’r archesgob am ddewis esgob i Fangor.  Dadl rhwng rheolwr Gwynedd ar archesgob Caergaint oedd hon, nid gwrthdrawiad rhwng yr eglwys a’r wladwriaeth yng Ngwynedd.  Felly pan fu farw Owain fe’i claddwyd, fel ei dad, yn yr eglwys gadeiriol er gwaethaf yr ysgymuno.  Ond addawodd esgobion Bangor ar ôl hynny eu hufudd-dod canonaidd i Gaergaint; eto pan ymwelodd yr Archesgob Baldwin â’r eglwys gadeiriol yn 1188, croeso llugoer a gafodd.

 

Un canlyniad o’r diwygio yn yr eglwys oedd bod yn haws yn awr gwahaniaethu rhwng awdurdod yr eglwys a’r wladwriaeth yng Ngwynedd fel ym mhobman arall, ac yn awr o bryd i’w gilydd codai dadleuon rhwng y tywysogion ac esgobion Bangor a Llanelwy.  Nid oedd dim byd anghyffredin yn hyn: ceid dadleuon o’r fath ynglyn â ffiniau awdurdod drwy Ewrob gyfan.  Yn 1261 bu cytundeb i dorri dwy ddadl rhwng y tywysog Llywelyn ap Gruffydd (1246-1282) a’r esgob Richard o Fangor; y naill ddadl am wrthdrawiad awdurdod a’r llall am derfynau tiriogaethol, ond pedair blynedd yn ddiweddarach gosododd yr un esgob waharddiad ar gapel preifat y tywysog.  Efallai mai ymgais i ddangos ei annibyniaeth oedd hyn gan esgob nad oedd yn fodlon ar y safle o gaplan y llys, a oedd yn rhan o’i swydd.  Teimlai olynydd Richard, sef Einion (Anian) fod rheolaeth lem Llywelyn yn fwy nag y gallai oddef, ac aeth yn alltud o’i wirfodd am gyfnod.  Bu cweryl hefyd rhwng Llywelyn a’i gâr Einion II, esgob Llanelwy, gŵr balch, a ysgymunodd y tywysog yn y diwedd a throsglwyddo ei ffyddlondeb i Edward I.  Felly, pan ddaeth yr argyfwng terfynol rhwng Cymru a Lloegr yn 1282 yr oedd Llywelyn wedi colli cefnogaeth ei esgobion, ac ymddengys fod cynllwyn yn ei erbyn wedi ei ddyfeisio yng nghlochdy eglwys gadeiriol Bangor.  Methiant fu ymgais aneffeithiol braidd ar ran Archesgob Pecham o Gaergaint i gyfryngu rhwng Edward a’r tywysog.

 

Fel y daeth Cymru i mewn i lif cyffredinol yr eglwys yn Ewrob, daeth tywysogion Gwynedd i ddelio fwyfwy â’r babaeth.  Yn 1212 anogodd y Pab Innocent III y rheolwyr Cymreig i ryfel yn erbyn y Brenin John, a gwelai Llywelyn Fawr (1194-1240) a’i olynwyr y Pab fel eu noddwr yn erbyn grym coron Lloegr, ac fel gwarantydd eu hannibyniaeth.  Ceisiodd Llywelyn Fawr gael cefnogaeth y Pab yn ei gais i wneud ei fab Dafydd yn unig etifedd iddo, a phan boenid Dafydd ap Llywelyn (1240-1246) gan Harri III ceisiodd yntau’n ofer ddod yn ddeiliad i’r Pab.  Trodd Llywelyn ap Gruffydd at Rufain am gefnogaeth foesol yn erbyn Edward I, ac ymddengys iddo gael cydymdeimlad y Pab Gregory X, ac Ottobuono, cennad y Pab, a drefnodd gytuneb Trefaldwyn rhwng Llywelyn a Harri III yn 1267.

 

Ni ellir trafod tywysogion Gwynedd a’r eglwys heb ystyried eu perthynas â’r urddau crefyddol.  Bu’r diwygio yn y ddeuddegfed ganrif yn angheuol i’r hen gymdeithasau crefyddol Celtaidd, y clasau.  Daeth Bangor yn eglwys gadeiriol, a daeth eraill fel Clynnog Fawr a Chaergybi yn glaseglwysi, a wasanaethid gan gabidwl o ganoniaid secwlar.  Ail-sefydlwyd Enlli, Beddgelert a Phenmon, dan nawdd y tywysogion mae’n debyg, fel tai’r Awstiniaid neu’r Canoniaid Duon.  Ond daeth delfryd mynachaidd newydd i Ewrob yn y Sistersiaid neu’r Mynaich Gwyn â’u rheol lem, atgof o’r traddodiad mynachaidd Celtaidd ar ei orau.  Cydiodd yn nychymyg y Cymry; rhwng 1157 a 1201 sefydlwyd tai Sistersaidd ym mhob rhan a Gymru.  Sefydlwyd Aberconwy yng Ngwynedd yn 1190, ac yn 1198, cafodd y mynachod siarter hael gan Llywelyn Fawr.  Claddwyd Llywelyn a’i ddau fab yno a chymerodd yr abaty le eglwys gadeiriol Bangor fel claddfa brenhinol Gwynedd, yn debyg i Westminster yn Lloegr a St. Denis yn Ffrainc.  Talodd y Sistersiaid yn ôl am yr haelioni hwn; yn wahanol i esgobion Bangor a Llanelwy, yr oedd eu ffyddlondeb yn ddisyfl, a phan gyhuddwyd Llywelyn ap Gruffyd gan Eionion o Lanelwy o fod yn elyniaethus i’r eglwys ac i’r mynachod yn arbennig, anfonodd yr abadau Sistersaidd Cymreig at y Pab i gefnogi Llywelyn.  Pan laddwyd Llywelyn yn 1282 aethpwyd â’i gorff i’w gladdu yn Abaty Sistersaidd Cym-hir.  Derbyniodd yr urddau cardotaidd newydd hwythau ffafr y tywysogion; sefydlwyd cymdeithas o’r Brodyr Llwydion yn Llan-faes ym Môn gan Llywelyn Fawr er cof am ei wraig, ac yr oedd y Brodyr Duon ym Mangor a Rhuddlan.  Gwasanaethodd y brodyr y tywysogion yn dda, yn enwidig fel negeswyr, gwaith a weddai i aelodau o gymdeithasau rhyngwladol a deithiai’n ddibaid.

 

Ar ôl 1282, pan ddisodlwyd yr arglwyddi brodorol gan frenhinoedd a thywysogion Lloegr, peidiodd esgobion Bangor â bod o unrhyw bwys gwleidyddol.  Ar ôl canol y bedwaredd ganrif ar ddeg rhoddid yr esgobaeth fel rheol i frodyr a fu’n aml yn gyffeswyr brenhinol neu’n glerigwyr, ac anaml y caent ddyrchafiad pellach.  Daeth Bangor, a fu unwaith yn brif eglwys teyrnas Gwynedd, yn un o’r eglwysi cadeiriol lleiaf a mwyaf diarffordd yr eglwys Loegr.  Ond fe fu Bangor yn gladdfa frenhinol, a bu iddi ei rhan yn hanes Gwynedd ac yn ymgais ei rheolwyr i uno Cymru.  Os nad oes ganddi urddas York neu Lincoln eto y mae ganddi ei harwyddocâd hanesyddol ei hun.

 

 

 

Tywysogion Gwynedd

Eglwys Gadeiriol Bangor

Llyfryn I goffâu yr Arddangosfa yn Eglwys Gadeiriol Sant Deiniol, Bangor, ar achlysur Jiwbili Arian y Frenhines Elisabeth II.

Rhestr o Itemau - Ffeiloffaith

Bywyd mewn Llys Cymreig

Pwy oedd aelodau’r Llys Cymreig a beth oeddent yn ei wneud?
Manylion

Cyfenwau

Esblygiad cyfenwau Cymraeg.
Manylion

Etifeddiaeth yng Nghymru

Sut oedd y system etifeddu’n gweithio?
Manylion

Cyfraith a Threfn

Ynglŷn â thalu dirwy waed am lofruddiaeth a hawliau merched.
Manylion

Magna Carta

Y Magna Carta a Chymru.
Manylion

Addurniadau’r Castell

Pa liw a ddylid peintio castell ...
Manylion

Arfau

Arfau'r Cyfnod.
Manylion

Coed Ywen mewn Mynwentydd

Pam fod coed ywen i’w cael bob tro mewn mynwent eglwys?
Manylion

Tywysogion Gwynedd a’r Eglwys Gan A. D. Carr

Y berthynas rhwng yr eglwys a’r wladwriaeth yng Nghymru cyn y Normaniaid. (Dach chi ar y dudalen hwn).

Geirfa

Geirfa o rai termau sydd yn y llyfrau.
Manylion

Llyfryddiaeth

Llyfryddiaeth ac ar gyfer ymchwil pellach.
Manylion

Gwybodaeth Cysylltu

Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod:

Ffôn: 01690 710601
E-bost:
info at princesofgwynedd dot com

www.princesofgwynedd.com

pen y dudalen pen y dudalen argraffu’r dudalen hon argraffu'r dudalen hon