Ffeiloffaith
Geirfa
Awstin Sant
Gambeson
Castell Mwnt a Beili
Urdd Awstinaidd (adnabyddir hefyd fel Canoniaid Awstinaidd neu'r Canoniaid Du): Mae'r Awstiniaid yn sawl urdd fynachaidd o ferched a dynion sy'n Babyddion ac yn byw yn ôl cyfeiriad i fywyd crefyddol a adnabyddir fel Rheol Awstin Sant. Fe redodd y Canoniaid Du ysgolion, ysbytai ag elusendai. Roedd eu habid yn glogyn du gyda chwfl (hood) dros gasog du. Roedd Brodyr Sant Awstin yn urdd ar wahân i'r rhain.
Urdd y Carmeliaid: Eglwys Babyddol. Darganfuwyd Urdd y Carmeliaid yn oddeutu 1154 gydag urdd o leianod yn 1452. Wedi ei enwi ar ôl Mynydd Carmel lle darganfuwyd yr urdd. Gweddi fyfyriol oedd canolbwynt Urdd y Carmeliaid.
Sistersiaid: Gelwir Urdd y Sistersiaid ambell waith yn Fynaich Gwyn (o ganlyniad i liw eu habid ac weithiau gwisgwyd sgapwlar neu ffedog ddu ar ben yr abid) sy'n urdd grefyddol Babyddol o fynaich neilltuedig. Cyweirnod bywyd Sistersaidd oedd dychwelyd yn ôl i arsylwi (yn llythrennol) Urdd Sant Bened. Y nodwedd fwyaf trawiadol yn yr ailffurfio oedd dychwelyd i lafur a gweithio gyda llaw yn enwedig gwaith maes a ddaeth yn nodweddiadol o fywyd Sistersaidd.
Cantref, Llys a Maerdref: Erbyn y 12fed a'r 13eg ganrif, roedd Gwynedd wedi ei rannu yn ardaloedd gweinyddol sef cwmwd a byddai gan bob cwmwd ei lys. Cyfeiriwyd at y dref lle'r oedd y llys yn faerdref - y maer oedd asiant y brenin yn y cwmwd ac ef oedd yn gyfrifol am gasglu trethi ag arian rhent. Roedd cydrannau'r llys a'r dref yn cynnwys y llys ei hun gyda'i neuadd frenhinol ag adeiladau eraill, y tiroedd brenhinol gyda thenantiaid wedi rhwymo i weithio ar y tir, ag aneddiadau'r tenantiaid yn un neu fwy o'r pentrefi. Gorfodwyd y tenantiaid i dalu rhent ond yn hytrach na thalu gydag arian byddent yn darparu gwasanaeth neu'n talu gyda chnydau. Byddai dyletswyddau'r tenantiaid yn cynnwys gweithio ar gaeau'r tir brenhinol, cyflenwi'r llys gyda chynnyrch amaethyddol neu efallai y byddent yn gyfrifol am gynnal a chadw'r adeiladau brenhinol.
de jure: yn seiliedig ar y gyfraith neu ar hawl, yn erbyn de facto sy'n golygu ‘ffaith'
Diddymu: Yn y 16eg Ganrif, crefydd y deyrnas oedd Pabyddiaeth gyda'r Pab yn arweinydd a'r y Pabyddion. Roedd Harri VIII eisiau dileu ei briodas i Catherine o Aragon er mwyn ail-briodi Anne Boleyn. Fe wrthododd y Pab â rhoi trwydded iddo. Yn 1534 sefydlwyd y Ddeddf Oruchafiaeth a oedd yn datgan mai Harri VIII oedd pennaeth Eglwys Lloegr. Yn 1538 fe gychwynnodd Harri'r VIII Ddiddymu'r Mynachlogydd a chymryd eu nwyddau ymaith (roedd y mynachlogydd yn gymharol gyfoethog) a gwerthwyd yr adeiladau i foneddigion lleol neu dinistriwyd y mynachlogydd a defnyddio deunyddiau'r adeiladau ar gyfer trigolion lleol.
Francigenae: Francigenae oedd y bonheddwyr â siaradai Ffrangeg ac â ffurfiodd y dosbarth llywodraethol o Jerwsalem i Ddulyn ac o Sisili i Hwngari. Mae Sharon Penman wedi defnyddio'r term ‘Normaniaid' fel term cynhwysol ar gyfer yr holl ddisgynyddion Ffrengig er mwyn symleiddio pethau.
Gambeson: Siaced amddiffynnol gyda phadin. Siaced wedi ei chwiltio ac wedi ei gwneud o wlân a lliain yn arferol.
Gutorn: Ffurf gynnar o'r gitâr, yna daeth y liwt.
Ipocras: Gwin melys llawn sbeis
Llys: Gweler Cwmwd
Bara Coesed: Bara gwenith o safon
Amyd: Torth wedi ei wneud o ryg ac wedi ei gymysgu gyda mymryn o wenith
Maritagiwm: gwaddol priodferch
Castell Mwnt a Beili: Mwnt oedd y twmpath, rhan amlaf yn un ffug, a oedd wedi ei amgylchynu gyda ffos gyda'r beili neu fuarth islaw. Rhan amlaf, crwn fyddai'r mwnt ond roedd mwnt sgwâr neu hirsgwar yn gyffredin hefyd yn enwedig yn yr Alban. Byddai uchder y mwnt yn amrywio'n fawr gyda'r mwyafrif o dan 5 medr.
Craig Sgistaidd: Unrhyw graig fetamorffig ellir ei rannu yn haenau tenau.
Craig Fetamorffig: Creigiau wedi eu haltro'n sylweddol o'r strwythur a'r cyfansoddiad gwreiddiol gan wres a phwysedd
Senysgal: Swyddog yn nhai y bonheddwyr pwysig yn yr Oesoedd Canol.
Rhestr o Itemau - Ffeiloffaith
Bywyd mewn Llys Cymreig
Pwy oedd aelodau’r Llys Cymreig a beth oeddent yn ei wneud?
Manylion
Cyfenwau
Esblygiad cyfenwau Cymraeg.
Manylion
Etifeddiaeth yng Nghymru
Sut oedd y system etifeddu’n gweithio?
Manylion
Cyfraith a Threfn
Ynglŷn â thalu dirwy waed am lofruddiaeth a hawliau merched.
Manylion
Magna Carta
Y Magna Carta a Chymru.
Manylion
Addurniadau’r Castell
Pa liw a ddylid peintio castell ...
Manylion
Arfau
Arfau'r Cyfnod.
Manylion
Coed Ywen mewn Mynwentydd
Pam fod coed ywen i’w cael bob tro mewn mynwent eglwys?
Manylion
Tywysogion Gwynedd a’r Eglwys Gan A. D. Carr
Y berthynas rhwng yr eglwys a’r wladwriaeth yng Nghymru cyn y Normaniaid.
Manylion
Geirfa
Geirfa o rai termau sydd yn y llyfrau. (Dach chi ar y dudalen hwn).
Llyfryddiaeth
Llyfryddiaeth ac ar gyfer ymchwil pellach.
Manylion
www.princesofgwynedd.com
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwestai Betws-y-Coed a'r Cylch