tywysogion gwynedd

Ffeiloffaith

Cyfraith a Threfn

Un system o gosbi unigolion oedd yn euog o droseddu, a chaiff eu defnyddio mewn rhai rhannau o'r byd hyd heddiw, yw gorfodi'r troseddwr neu deulu'r troseddwr i dalu dirwy-waed i'r dioddefwr (neu i deulu'r dioddefwr os ydyw ef/neu hi wedi marw). Yng Nghymru yn y trydydd ganrif ar ddeg, byddai gan wraig a fyddai'n dal ei gŵr yn godinebu yr hawl i lofruddio'r ferch oedd yn cael perthynas gyda'i gŵr heb unrhyw wrthgyhuddiad! A'r gŵr? Yn fwy na thebyg ni chafodd ei gosbi am odinebu.

“Rwy'n credu fod angen i chi wybod ym mha fodd yr ydym yn gweld merched. Mae'n wir........ni all merch Gymraeg etifeddu tiroedd ei thad, ond byddai ganddi'r hawl i etifeddu yn Lloegr. A'r rheswm am hynny yw bod ein cyfraith ni yn eithrio dynion gydag anffurfiadau, dynion byddar, efryddu neu gyda'r gwahanglwyf. Ofnwyd.........na allai merched a dynion gydag un o'r gwendidau a restrwyd gadw eu tir o dan ymosodiadau. Ond nid ydym yn hawlio fod gwendid merch ar faes y gâd yn golygu ei bod yn israddol ym mhopeth arall..... Nid oes modd priodi merch yn erbyn ei hewyllys, ac mae gan wraig Gymraeg gymaint o hawl i gerdded i ffwrdd o briodas anhapus ac sydd gan ei gŵr.......roeddem yn sôn am sut i roi diwedd ar y briodas. Ni chaiff ei wneud gyda chaniatâd o'r ddau ochr. Hefyd, gall gŵr diarddel ei wraig os bu hi'n hawlio ei bod yn wyryf a'i fod yn darganfod ar noson eu priodas mai celwydd oedd hyn, neu ei fod yn ei darganfod mewn cyfaddawd gyda gŵr arall............neu fod eu priodas ddim yn cyrraedd y disgwyliadau â addawyd.........Ond hoffech chi wybod sut mae gwraig yn cael gwared â gŵr? Mae pedwar cwyn sy'n rhoi ei rhyddid yn ôl iddi: os oes gan y gŵr wahanglwyf, os oes ganddo anadl drwg, os yw'n analluog yn y gwely neu os yw'n amharchu adduned priodas dair gwaith...... Y ddau dro cyntaf mae gwraig yn darganfod fod ei gŵr wedi cysgu gyda merch arall, mae ganddi'r hawl i ofyn am gowyn - sydd mwy neu lai fel dirwy am odineb ei gŵr. Os fydd y gŵr yn twyllo am y trydydd tro yna mae ganddi'r hawl i'w adael, ond os nad yw'n gwneud hynny yna nid oes ganddi'r hawl i gwyno ymhellach. ..... mae un rheswm arall am roi diwedd ar y briodas......os daw ei gŵr ag unrhyw ferch arall i'w chartref.” - o 'Here Be Dragons'

Rhestr o Itemau - Ffeiloffaith

Bywyd mewn Llys Cymreig

Pwy oedd aelodau’r Llys Cymreig a beth oeddent yn ei wneud?
Manylion

Cyfenwau

Esblygiad cyfenwau Cymraeg.
Manylion

Etifeddiaeth yng Nghymru

Sut oedd y system etifeddu’n gweithio?
Manylion

Cyfraith a Threfn

Ynglŷn â thalu dirwy waed am lofruddiaeth a hawliau merched. (Dach chi ar y dudalen hwn).

Magna Carta

Y Magna Carta a Chymru.
Manylion

Addurniadau’r Castell

Pa liw a ddylid peintio castell ...
Manylion

Arfau

Arfau'r Cyfnod.
Manylion

Coed Ywen mewn Mynwentydd

Pam fod coed ywen i’w cael bob tro mewn mynwent eglwys?
Manylion

Tywysogion Gwynedd a’r Eglwys Gan A. D. Carr

Y berthynas rhwng yr eglwys a’r wladwriaeth yng Nghymru cyn y Normaniaid.
Manylion

Geirfa

Geirfa o rai termau sydd yn y llyfrau.
Manylion

Llyfryddiaeth

Llyfryddiaeth ac ar gyfer ymchwil pellach.
Manylion

Gwybodaeth Cysylltu

Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod:

Ffôn: 01690 710601
E-bost:
info at princesofgwynedd dot com

www.princesofgwynedd.com

pen y dudalen pen y dudalen argraffu’r dudalen hon argraffu'r dudalen hon