Teithiau Gyrru
Taith 6 - Gogledd Dwyrain Cymru
Castell Dinbych
Capel Sant Hilari
Abaty Dinas Basing
Ffynnon Sanctaidd Santes Gwenffrewi
Castell Y Fflint
Eglwys y Santes Ffraid
Castell Rhuddlan
Mae'r daith yma yn ymweld â chastell llai amlwg efallai o'r ‘cadwyn o gestyll' yn Ninbych, abaty Sistersaidd Dinas Basing, safle pererindod Ffynnon Sanctaidd Santes Gwenffrewi, cyn dargyfeirio'r daith i ymweld â'r cyntaf o'r ‘cadwyn o gestyll' yn Fflint, gan orffen yng Nghastell Rhuddlan lle cafodd Llywelyn ein Llyw Olaf ei orchfygu.
-
Dinbych
-
Castell Dinbych
-
Capel Santes Hilari
-
Tŷ'r Brodyr, Dinbych
-
-
Abaty Dinas Basing
-
Ffynnon Sanctaidd Santes Gwenffrewi
-
Castell Dinas Basing
-
Castell Y Fflint
-
Diserth
-
Eglwys y Santes Ffraid
-
Castell Diserth
-
-
Rhuddlan
-
Castell Rhuddlan
-
Castell Twt Hill
-
Eglwys y Santes Fair
-
Man Cychwyn: Betws-y-coed
Ar hyd y Ffordd: I gyrraedd Dinbych rhaid gyrru dros Fynydd Hiraethog. Mae'r Hiraethog, sy'n ardal prin wedi goroesi, yn waun gyda grugiar ac yn ystâd saethu. Yn fwy dramatig na dim arall ar y waun yw porthdy hela dirywiedig Gwylfa Hiraethog. Cafodd ei adeiladu ar gyfer Is-iarll cyntaf Porth Dyfnaint ym 1908 ac ar un adeg dyma'r adeilad feddianedig uchaf yng Nghymru. Edrychwch allan am foncath ar y ffordd, mae cyfle da i weld yr aderyn ysglyfaethus hwn yn hedfan fry yn yr awyr.
DINBYCH
“Roedd gan Castell Dinbych bresenoldeb arswydus, wedi ei leoli ar fryn uchel, ac yn brif dlws yng nghoron Dafydd. Troellodd y mwg o'r simnai, crynodd y goleuadau yn ffenestri ucha'r tyrrau cromfannol, ac roedd dynion arfog yn cylchwylio waliau'r llen allanol...........roedd y bont godi'n dod i lawr, a'r barbican yn codi.” - o 'The Reckoning'
Mae Castell Dinbych wedi ei adeiladu ar safle amddiffynfa Dafydd ap Gruffydd. Cafodd y castell presennol ei godi yn 1282 pan gafodd Dafydd ei ddal a chafodd ei godi fel rhan o ymgyrch Edward I yn erbyn y Cymry; cychwynwyd ar waliau'r dref yn ystod y cyfnod yma hefyd. Amharwyd ar adeiladu'r castell yn 1294 pan gafodd y Cymry afael ar y castell am gyfnod dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Mae'r adeiladwaith ddiweddarach i'w weld yn amlwg gyda'r waliau llen sy'n fwy trwchus. Mae tŵr sgwar yr eglwys sydd i'w weld o Gastell Dinbych hefyd o'r cyfnod yma; cafodd gweddill Capel Sant Hilari ei ddymchwel ym 1923 ond mae'r tŵr yn dal i fodoli. Mae modd cerdded ar Waliau'r Dref rhwng mis Ebrill a mis Medi ac mae'r castell yn agored drwy gydol y flwyddyn.
Roedd Tŷ'r Brodyr, Dinbych yn Urdd y Carmeliaid yn y 13 eg ganrif. Mae'r gweddillion yn cynnwys y côr a rhan o ganol yr eglwys wreiddiol sy'n dyddio i oddeutu 1300; mae gweddillion posib hefyd o'r man clwystrol deheuol yn gorfforedig ym Mwthyn yr Abaty.
Symud Ymlaen: Mae Abaty Dinas Basing yn sefyll tu fewn i ganolfan dreftadaeth Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.
Ar hyd y Ffordd: Byddwch yn ddiolchgar o Gytundebau Genefa! Ychydig iawn o drugaredd a roddwyd i ‘elynion' yn y cyfnod hynny. Roedd yn gyffredin i'r Cymry i anafu neu ladd eu carcharorion. Ar un adeg roedd Edward yn cynnig swllt ar gyfer pob pen gwrthryfelwr Cymreig. Wedi'r gwrthryfel yn 1294, cafodd 500 o Gymry eu lladd yn eu cwsg.
ABATY DINAS BASING
“Fe sefydlodd Edward ei bencadlys yn abaty'r Fendigaid Forwyn Fair yng nghanol mis Gorffennaf [1277], gan gychwyn ar y gwaith o adeiladu castell ar unwaith wrth geg yr Afon Dyfrdwy.” - o 'The Reckoning'
“Roedd Llywelyn ap Iorwerth a'i fab, Dafydd, yn gymwynaswyr gwych i Abaty Dinas Basing, wrth iddynt ddatgan eu siartr yn unigol a'u bod yn rhoi ac yn cadarnhau sawl cyfraniad i Dduw, y Santes Fair, abaty Dinas Basing, y mynachod, a'r hyn a roddwyd ar y mynachod gan eu rhagflaenwyr, iachawdwriaeth eu heneidiau.” [Geiriadur Topograffaidd Cymru, Lewis (1849)]
Y gred yw fod Abaty Dinas Basing wedi ei ddarganfod yn 1131 ond mae amheuon fod yr abaty yn wreiddiol wedi bod 3 milltir i lawr yr arfordir. Mae'n debyg fod y mynachdy wedi bod ar y safle yma yn 1157. Yn ystod y 13eg Ganrif, roedd yr Abaty yn cydymdeimlo gyda'r Saeson - gan ddarparu caplan ar gyfer Castell Fflint. Mae gosodiad Abaty Dinas Basing yn hollol Sistersaidd a'r nifer sy'n weladwy heddiw yw'r estyniadau a'r ailwampio a ddigwyddodd yn ystod y 13eg ganrif.
Roedd pensaernïaeth y Sistersiaid yn syml, ymarferol a heb unrhyw addurniadau a fyddai'n tynnu sylw oddi ar weddïo. Mae adeiladwaith Abaty Dinas Basing yn nodweddiadol o groesffurf, gyda chapeli bychan yng nghroesfa'r de a chroesfa'r gogledd, a'r adeiladau clwystrol o amgylch y groesfa ar yr ochr ddeheuol yng nghanol yr eglwys. Mae'r ddau fwa coeth o'r Cabidyldy estynedig, a'u colofnau ategol, wedi goroesi'n hynod o dda i'w gymharu â gweddill y strwythur mynachaidd darfodus.
Symud Ymlaen: O'r Abaty mae llwybr cerdded yn arwain trwy Barc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas at Ffynnon Sanctaidd Santes Gwenffrewi, sydd gyda rhagor o eitemau o ddiddordeb ar y ffordd.
FFYNNON SANCTAIDD SANTES GWENFFREWI
[Elen] “Mae yna ffynnon sanctaidd yng Ngogledd Cymru sy'n agos i Abaty Dinas Basing. Mae wedi ei gysegru i Santes Gymraeg, Gwenffrewi, ac mae dŵr y ffynnon yn ôl y sôn gyda phwerau iachau rhyfeddol, yn enwedig ar gyfer merched sy'n methu beichiogi. Wrth i mi ddychwelyd, byddaf yn mynd ar bererin i'w ffynnon......... ac ymbil ar Santes Gwenffrewi i ateb fy ngweddi, er mwyn rhoi mab i Llywelyn..” - o 'The Reckoning'
“y ffynnon fwyaf pwerus ar yr ynys, sy'n tarddu o graig islaw'r dref, ac sydd wedi ei glodfori am oesoedd am ei effeithlonedd gwyrthiol sy'n draddodiadol wedi ei gysylltu gyda rhoi dŵr i Santes Gwenffrewi - sydd wedi ei gysegru er cof amdani wedi ei marwolaeth. … [cafodd] mab i frenin cyfagos ei swyno gan brydferthwch Santes Gwenffrewi ac o ganlyniad i'w gwrthyrru diystyrllyd a oedd yn cynddeiriogi'r mab, fe dorrodd ei phen i ffwrdd gyda'i gleddyf, am ei bod hi'n ceisio dianc oddi wrtho; ac fe roliodd y pen gwahanedig i lawr y bryn gan stopio ger eglwys Sant Beuno lle ymrwygodd grym anferthol o ddŵr o'r man yma lle gorffwysodd y pen. Mae'r mwsogl bob ochr i'r ffynnon, yn ôl y sôn, wedi ymledu arogl o bersawr; ac mae'r cerrig oedd gyda'i gwaed arnynt, yn ôl rhai, ar y dyddiad lle torrwyd ei phen o weddill ei chorff, wedi newid i liw sydd ddim wedi ymddangos ar unrhyw adeg arall.” [Geiriadur Topograffaidd Cymru, Lewis (1849)]
Mae'r Ffynnon Sanctaidd yn sefyll o fewn adeilad Cysegru o'r 16eg ganrif ac yn parhau i fod yn fan pwysig iawn ar gyfer pererindod Gatholig. Mae Arddangosfa ac Amgueddfa yma. Mae'n bosibl hefyd ar rai cyfnodau i bererinion drochi yn y Ffynnon.
Os oes gennych chi amser ewch i ymweld â:
-
Castell Dinas Basing (Mae'r castell i fyny'r bryn o'r ffynnon, ar ochr ddwyreiniol y llwybr ac wedi ei guddio yng nghanol coed a deiliach trwy Barc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas. Mae'n debyg y byddwch chi'n cael trafferth dod o hyd iddo ac ychydig iawn sydd i'w weld beth bynnag.)
“Sefydlodd Edward ei bencadlys ym mynachlog y Fendigaid Forwyn Fair yng nghanol mis Gorffennaf [1277], ac fe gychwynnodd ar y gwaith o adeiladu castell ar unwaith wrth geg yr Afon Dyfrdwy. Wrth i filwyr warchod, fe gychwynnodd y gweithwyr balu ffos ddofn ac amddiffynnol. Cafodd rhai eraill eu hanfon i adeiladu ffordd ar hyd arfordir Cymru. Erbyn diwedd y mis roedd dros ddwy fil o gymynwyr (axemen), saeri coed ac maen, chwarelwyr, dynion i gario'r glo ac i'w losgi yn gweithio ar ran y Brenin, ac wrth iddynt hacio a llosgi eu ffordd trwy'r coedwigoedd derw hynafol a oedd wedi bod mor bwysig am sawl canrif i wrthyrru ymosodwyr estron, roedd fel bod tirwedd Cymru o dan ymosodiad.” - o 'The Reckoning'
Fe newidiodd y castell ddwylo sawl gwaith yn ystod y brwydro am dir rhwng tywysogion Cymru a'r Normaniaid, cyn i gestyll cerrig mwy o ran maint gymryd eu lle - roedd hi'n anoddach i gadw'r rhain dan warchae. Yn 1241 fe roddodd Dafydd ap Llywelyn Gastell Dinas Basing i Harri'r III, ynghyd ag eiddo eraill a enillodd Llywelyn Fawr fel rhan o gynllun heddwch a drefnwyd gyda Harri'r II. Mae'r cloddiau erydog wedi gordyfu.
Symud Ymlaen
Ar hyd y Ffordd: Wrth yrru ar y ffordd arfordirol, yr Afon Dyfrdwy yw'r rhychwant o ddŵr a'r penrhyn ar yr ochr arall yw'r Cilgwri. Mae'r Afon Ddyfrdwy yn codi yn Eryri, ychydig i'r gogledd o Ddolgellau ac yn llifo heibio cronfa ddŵr y Bala, dros Fynydd Hiraethog ac ymlaen i Gaer.
Os oes gennych chi amser, beth am ymweld â:
-
Castell Fflint
“Roedd llawer o weithwyr a milwyr Edward yn gwersylla tair milltir i ffwrdd, yn safle'r castell newydd, oedd wedi ei fedyddio'n barod gan Edward fel ‘Fflint'…” - o 'The Reckoning'
Castell Fflint oedd y cyntaf a gafodd ei adeiladu o ‘gadwyn o gestyll' Edward I ar gyfer trechu Llywelyn ein Llyw Olaf a dinistrio annibyniaeth ganoloesol y Cymry. Dyluniwyd y ‘cadwyn o gestyll' i fod yn ddiwrnod o hyd (gorymdaith) ar wahân, gyda Fflint y cyntaf yn y gadwyn am ei fod yn ddiwrnod o orymdaith o Gaer. Sefydlwyd y castell, a phob amddiffynfa arall gan Edward, wrth gyflenwad y môr. Byddai ymosodwr o'r tir yn gorfod torri drwy amddiffynfeydd y dref i ddechrau; yna croesi ffos lydan wedi llenwi gyda dŵr môr ar lanw uchel, yna beili gyda wal allanol a phorthdy ac yna ffos fewnol arall. Dim ond wedyn byddai'r ymosodwr yn cyrraedd waliau uchel y castell ei hun. Er bod y llawr uchaf wedi diflannu, mae'r castell yn hynod o gyflawn. Roedd gan y castell gapel, siambrau wely, toiledau a ffynnon dau lawr wedi ei osod o amgylch gofod canolog agored ac wedi ei gynnal gyda galeri crwn ar y llawr isaf.
Symud Ymlaen: Wrth i chi gyrraedd i mewn i Ddiserth, dilynwch yr arwyddion i'r Rhaeadr gan fod y rhaeadr ger yr Eglwys.
Ar hyd y Ffordd: Ni fu Llywelyn ein Llyw Olaf yn ddyn cyfoethog o gwbl trwy'i fywyd. Roedd angen cyfanswm sylweddol o arian arno er mwyn talu'r Brenin ac i ariannu ei ymgyrchoedd. Rhwng 1267 a 1272 bu'n rhaid iddo dalu £11,500 i'r Brenin. Er mwyn codi'r arian bu'n rhaid iddo godi trethi uchel iawn ar ei bobl, ac yn y cyfnod hynny byddai pobl yn talu gyda nwyddau yn hytrach nag arian.
Os oes gennych chi amser, beth am ymweld â:
-
Diserth
Mae'r eglwys, sydd wedi ei gysegru i Santes Ffraid, yn adeilad bychan taclus heb ddŵr na meindwr, ond gydag addurniadau fel ffenestr liw wedi ei dynnu o Abaty Dinas Basing..........yn ystod cyfnod y diddymiad...............yn y fynwent.............mae dwy garreg fedd sengl, gyda bwa cerfiedig uwchben bob un, a cholofn hynafol, lle mae'r tywysogion a'r rhai cyntefig enwog wedi gwneud sylwadau arnynt. …[Geiriadur Topograffaidd Cymru, Lewis (1849)]
Mae rhannau cynharaf o Eglwys y Santes Ffraid yn deillio o'r 13eg ganrif sef y rhannau uwchben yr allor a ddaeth o Abaty Dinas Basing wedi'r diddymiad. Mae'r cerrig beddi a soniodd Lewis amdanynt yn dal i fod yno ond mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys yn credu eu bod yn deillio o'r 17 eg ganrif. A'i chwedl arall yw bod y tywysogion yn trwyddedu eu barn ar y cerrig beddi neu a oedd rhai cynharach?
Cafodd Castell Diserth ei adeiladu yn oddeutu 1245 gan Harri'r III ond fe gafodd ei ddymchwel i'r ddaear gan Llywelyn ein Llyw Olaf - gellir ymweld â'r safle ond mae angen llawer o ddychymyg i geisio dehongli'r ychydig sydd i'w weld. Ar dŷ cyfagos mae pâr o ffenestri gyda phenau crwn sy'n nodweddiadol o'r cyfnod hynny ac sydd wedi eu hadeiladu i mewn i'r wal sy'n awgrymu efallai eu bod nhw wedi dod o'r castell.
Symud Ymlaen: Gwiriwch beth yw oriau agor Castell Rhuddlan cyn mynd am ei fod yn cau dros y gaeaf – rhan amlaf rhwng mis Hydref a mis Mawrth.
Ar hyd y Ffordd: Byddai'r Cymry'n ffafrio bwa hir a bwa croes ar gyfer ymosod. Defnyddiwyd coeden ywen i lunio bwa hir. Er hynny, er mwyn saethu'n gywir gyda bwa hir byddai'n rhaid ymarfer yn gyson gyda blynyddoedd o hyfforddiant tu cefn iddynt, ond mantais y bwa hir oedd ei fod yn trafeilio'n bell. Doedd y bwa croes ddim yn saethu cyn belled â'r bwa hir ond roedd yn llawer haws saethu gyda'r bwa croes a byddai rhywun yn ei feistrioli mewn cyfnod byr o wythnos.
CASTELL RHUDDLAN
“Nid yn unig fyddai'r castell ei hun yn un o amddiffynfeydd mwyaf arswydus Gogledd Cymru, roedd Edward hyd yn oed wedi ystyried dargyfeirio Afon Clwyd drwy ei ystumio fel ei fod yn fas wrth iddo agosáu at y môr. Gwrandawodd Dafydd, wedi ei syfrdannu, wrth i Edward egluro sut y byddai'n palu sianel dwy filltir o hyd a fyddai'n ddigon dwfn i longau Saesnig. O ganlyniad i hyn ni fyddai'r gwarchodlu byth yn llwgu, meddai, gan allu goroesi unrhyw warchae gan y Cymry …” - o 'The Reckoning'
Cafodd Castell Rhuddlan ei godi yn oddeutu 1277 er mwyn cymryd lle Castell Twt Hill. Roedd y frwydr ddi ddiwedd ar y ffin ar fin symud i'r cyfnod olaf, cyfnod lle byddai Rhuddlan yn honni pwysigrwydd newydd a fyddai'n cynyddu. Yn Awst 1277 fe symudodd Edward I ei bencadlys i Ruddlan. Wedi gorfodi Llywelyn ein Llyw Olaf i ildio yn y mis canlynol daeth y rhyfel i'w ddiwedd yn ddigon annisgwyl er ni chafodd yr elyniaeth ei ddiweddu'n ffurfiol tan fis Tachwedd gyda Llywelyn ein Llyw Olaf yn ymostwng i'r Brenin yn Rhuddlan.
Yn 1283 cafodd Dafydd ap Gruffydd, ynghyd â'i wraig, ei ddau fab, a'i saith ferch eu carcharu yn Rhuddlan ac wedi cyfnod yn y castell cafodd ei symud mewn cadwyni i'r Amwythig lle cafodd ei ladd am fod yn fradwr.
Cychwynwyd y gwaith o adeiladu Castell Twt Hill yn 1073 ac mor ddiweddar â 1241-42 roedd yr amddiffynfeydd, mewn rhannau o leiaf, yn dal i fod yn goed, gydag adeiladau gyda fframiau o goed yn cynnal y beili. Mae'r safle bellach yn dwmpath o laswellt gyda golygfeydd godidog sy'n tynnu sylw at ei leoliad strategol. Credir fod Castell Twt Hill wedi ei adeiladu ar safle castell cynharach a gafodd ei godi gan Gruffydd ap Llewelyn.
Caniatawyd siarter ar gyfer Eglwys y Santes Fair yn Rhuddlan yn 1278 ac adeiladwyd yr eglwys yn 1301. Mae canol ddeheuol yr eglwys yn rhan o'r adeilad gwreiddiol.
I gwblhau'r daith, dychwelwch i'r man cychwynol ym Metws-y-coed.
Ar hyd y Ffordd: Castell arall? Oddeutu hanner ffordd i lawr yr A470 rhwng Llandudno a Betws y Coed mae cyffordd o'r enw Tal-y-cafn. Ar ochr arall y bont mae safle Bryn Castell, oedd yn gastell mwnt a beili canoloesol,a gafodd ei adeiladu yn ôl y sôn i warchod y man croesi ar yr afon. O bellter gellir gweld y twmpath lle'r oedd y castell yn sefyll ond ychydig iawn sy'n weddill o'r castell ei hun.
Mae lleoliadau’r prif fannau o ddiddordeb i’w gweld isod. Defnyddiwch y botwm 'Satellite' i gael golwg ar y lleoliadau drwy edrych i lawr ar y llun (gwell chwyddo i mewn i ddechrau).
A - Betws-y-Coed
B - Castell Dinbych / Capel Santes Hilari
C - Tŷ'r Brodyr, Dinbych
D - Abaty Dinas Basing
E - Ffynnon Sanctaidd Santes Gwenffrewi
F - Castell Y Fflint
G - Castell Diserth
H - Castell Rhuddlan
I - Castell Twt Hill, Rhuddlan
J - Eglwys y Santes Fair, Rhuddlan
Ewch i Googlemap ar gyfer cyfarwyddiadau o’r teithiau
Rhestr o Itemau - Teithiau Gyrru
Taith 1 - Betws-y-Coed i Abergwyngregyn
Ymwelwch â’r Ceiri hynafol canlynol - Castell Conwy a chartref Tywysogion Gwynedd yn Abergwyngregyn, y Ceiri gorau ym Mhrydain o bosib.
Manylion
Taith 2 - Betws-y-Coed, Llanrwst a Trefriw
Taith fer ond y daith fwyaf atgofus mae’n debyg i chi gerdded wrth i chi ddilyn camau Llywelyn Fawr.
Manylion
Taith 3 - Sir Fôn
Ymwelwch â Môn Mam Cymru (Sir Fôn) gyda’i heglwysi atgofus a Chastell Biwmares sy’n safle Treftadaeth y Byd.
Manylion
Taith 4 - Bangor, Caernarfon a Llanberis
O hanes naturiol y Rhaeadr Ewynnol i hanes o waith dyn yng Nghastell Caernarfon a Chadeirlan Bangor.
Manylion
Taith 5 - Beddgelert, Criccieth a Dolwyddelan
Cestyll lu, yn cynnwys hoff gastell Llywelyn Fawr yn Nolwyddelan.
Manylion
Taith 6 - Gogledd Dwyrain Cymru
Gadewch i hanes siarad â chi wrth i chi archwilio gorffennol milain Castell Rhuddlan. (Dach chi ar y dudalen hwn).
www.princesofgwynedd.com
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwestai Betws-y-Coed a'r Cylch