Teithiau Gyrru
Taith 5 - Beddgelert, Criccieth a Dolwyddelan
Castell Dinas Emrys
Castell Cricieth
Castell Dolwyddelan
Castell Tomen
Mae'r daith yma yn eich arwain i Feddgelert gyntaf i archwilio eglwys Tywysogion Cymru, cyn symud ymlaen i Gastell Cricieth lle carcharwyd Gruffydd ap Llywelyn, cyn symud ymlaen i Gastell Dolwyddelan a gafodd ei adeiladu gan Llywelyn Fawr a Chastell Tomen lle cafodd y tywysog ei eni.
-
Castell Dinas Emrys
-
Beddgelert
-
Safle'r Porthdy Hela
-
Eglwys
-
-
Castell Dolbenmaen
-
Castell Cricieth
-
Castell Dolwyddelan
-
Castell Tomen
-
Eglwys Sant Gwyddelan, Dolwyddelan
Man Cychwyn: Betws-y-coed
Ar hyd y Ffordd: Wrth i chi droi ar yr A4086 yng Nghapel Curig mae'r olygfa hyd yn oed yn fwy ysblennydd! Byddwch yn gyrru heibio'r Ganolfan Fynydda Genedlaethol ym Mhlas-y-Brenin ac yn gyrru i lawr y dyffryn a heibio sawl llyn. Ymhellach i lawr y lôn, y mynyddoedd ar y dde yw mynydddoedd Eryri. Mae nifer o fannau ar ochr y ffordd i chi stopio i fwynhau'r olygfa anhygoel yma. Y llyn nesaf ar y dde yw Llyn Gwynant ac yna ymhellach ymlaen ar y chwith mae Llyn Dinas.
Os oes gennych chi amser beth am ymweld â:
- Castell Dinas Emrys -Parciwch eich car ym mhen pellaf Llyn Dinas, edrychwch i fyny ar y dde am safle Castell Dinas Emrys. Ystyr y Dinas yma yw bryngaer Geltaidd. Mae darganfyddiadau wrth gloddio'r safle yn dangos meddiannaeth yma ers y 5ed neu'r 6ed Ganrif ond nid oes unrhyw dystiolaeth o gastell o'r 12fed Ganrif a oedd yn ôl y sôn wedi ei adeiladu gan Llywelyn Fawr. O ganlyniad i wendid y gweddillion a'r anawsterau o geisio cyrraedd y lle, ni awgrymir i chi grwydro i'r safle ond gellir gweld y bryn lle arferai'r gaer sefyll o gryn bellter i ffwrdd.
BEDDGELERT
“Roedd y plwyf eang yma, gyda'i enw hynafol Llan-Ybor, yn cynnwys priordy, a ddarganfuwyd gan Llywelyn Fawr yn ôl rhai ysgrifenwyr yn y flwyddyn 1198 …bron wedi ei ddinistrio gan dân, oddeutu'r flwyddyn 1283, cafodd y priordy ei ail adeiladu gan Edward I …” [Geiriadur Topograffaidd Cymru, Lewis (1849)]
Roedd gan Llywelyn Fawr borthdy hela ym Meddgelert, a oedd yn ôl y sôn ar y safle lle mae Tŷ Isaf nawr, sef bwthyn o'r 17eg ganrif sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac sy'n werth cael golwg arno. Nid oes modd i chi fynd i Feddgelert heb glywed am Fedd Gelert; chwedl yw hon, ond un sy'n werth ei chlywed!
O Tŷ Isaf ewch ar hyd y ffordd fach sy'n mynd i nunlle ac ar ei diwedd hi mae porth yr eglwys. Yn ôl y sôn roedd eglwys ar y safle yma ers y 7fed Ganrif. Darganfuwyd priordy o Ganoniaid Du neu Awstiniaid yn oddeutu 1198 ac roedd yn enwog am ei sancteiddrwydd a'i chroeso i deithwyr. Ail ffurfiwyd y gymdeithas yn 1230 fel Priordy Awstinaidd i Ddyffryn Santes Fair yn Eryri ac fe roddodd y tywysogion Cymreig diroedd a thalu am eglwys briordy garreg newydd, lle mae rhannau ohoni i'w gweld heddiw, ac sydd bellach yn eglwys blwyf. Mae wal ogleddol yr Eglwys gyda dau fwa coeth a drws i'r festri o'r 13eg Ganrif, y tyb yw ei fod wedi arwain i gell y prior. Mae ffenestr driblyg lansed hardd o'r 13eg Ganrif ar y wal ddwyreiniol - yn anffodus tydi'r ffenestr liw ddim mor hen â'r ffenestr ei hun. Tu draw i'r fynwent mae gweddillion y Priordy Awstinaidd ond nid oes unrhyw beth i'w weld ar hyn o bryd.
Symud Ymlaen: Mae pentref Dolbenmaen oddi ar yr A487. Parcio ger yr eglwys fyddai rhwydda' i chi ond mae'r olygfa orau o'r ‘twmpath' lle arferai'r castell sefyll fwy na thebyg i'w gael o'r ffordd fawr.
Ar hyd y Ffordd: Wrth i chi yrru lawr yr A498, mae'n debyg i chi weld arwyddion rheilffordd. Dyma estyniad i Reilffordd Ucheldir Cymru ar gyfer trenau stêm. Yn wreiddiol, rhedai'r rheilffordd o Gaernarfon i Ryd Ddu (i'r gorllewin o Feddgelert) ond mae estyniad wedi ei ychwanegu at y rheilffordd i lawr at Borthmadog, lle bydd yn cysylltu gyda Rheilffordd Ffestiniog i fynd a theithwyr i fyny i Flaenau Ffestiniog.
Os oes amser gennych beth am ymweld â :
-
Castell Dolbenmaen
“Fe [Llywelyn] groesodd yr Afon Dwyfor yng nghwmwd Dolbenmaen, gyda thenantiaid yn gweithio'r tir yn stopio gweithio i syllu arno wrth iddo basio, wedi eu syfrdanu fod eu tywysog yn ymddangos yn sydyn yn eu mysg fel hyn, gyda dim mwy na'i deulu yn gwmni iddo” - o 'The Reckoning'
Mae cysylltiad rhwng Castell Dolbenmaen â'r llys, ac mae'r twmpath lle safai'r castell wedi goroesi. Credir fod siawns i Blas Dolbenmaen fod ar safle hen dŷ canoloesol; Plas Dolbenmaen yw'r clwstwr o adeiladau sydd gyferbyn â'r eglwys. Fe symudodd Llywelyn Fawr allan o'r llys yma i Gricieth. Arferai Eglwys y Santes Fair sydd dros y ffordd o'r twmpath fod yn gapel ac mae'n debygol fod cysylltiad yn wreiddiol rhwng y capel a'r llys.
CASTELL CRICIETH
“Fel pob castell Cymreig, fe gafodd ei godi heb unrhyw rybudd, ac yn sydyn roedd yn sefyll yna o'i blaenau, yn gysgod anhygoel llwyd o faen wedi ei godi yn erbyn yr awyr disglair.” - o 'Falls the Shadow'
Mae Castell Cricieth yn sefyll ar bentir ac yn olygfa strategol ar benrhyn creigiog sy'n edrych i lawr dros Fae Tremadog. Cafodd y porth dau dŵr ei adeiladu gan Llywelyn Fawr rhwng 1230 - 1240. Cafodd Gruffydd ap Llywelyn ei garcharu am gyfnod hir yng Nghastell Cricieth yn oddeutu 1240 gan ei frawd Dafydd. Yna cafodd Gruffydd ei gludo i ddwylo'r Saeson, at Harri'r III i fod yn fanwl gywir, ac fe gafodd ei garcharu yn Nhŵr Llundain - bu farw wrth iddo geisio dianc. Fe ymosododd byddin Edward ar Gastell Cricieth yn 1283 a'i adnewyddu'n sylweddol drwy addasu tŵr ar gyfer defnyddio catapwlt neu fel ‘peiriant' taflu cerrig. Ar droad y ganrif bu'r castell dan warchae'r Cymry ac yn 1404 fe ymosododd Owain Glyn Dŵr ar y castell a'i losgi - mae marciau deifio i'w gweld ar y waliau hyd heddiw.
Symud Ymlaen
Ar hyd y Ffordd: Bydd y daith yn eich arwain trwy ddyffryn Ffestiniog ac ar lôn o'r enw Bwlch-y-Gorddinan ar y Crimea ond mae'n debyg fod y rhan fwyaf ohonoch yn adnabod y ffordd fel yr A470. Cafodd y lôn ei alw'n ‘Crimea' am ei fod wedi ei adeiladu yn oddeutu 1854 yn ystod cyfnod Rhyfel y Crimea a honnir ei fod wedi ei adeiladu gan garcharorion rhyfel o Rwsia a gafodd eu dal ym Mrwydr y Bafaclafa. Roedd tafarn yn arfer bod ar frig y bwlch o'r enw ‘The Crim'.
CASTELL DOLWYDDELAN
“Fe ymddangosodd …o'r creigiau garw yn goruchwylio'r Afon Lledr........Ar ochr dde'r castell roedd y ddaear yn disgyn i ffwrdd yn llym, a ffosydd dwfn wedi eu torri i'r graig ar ochr gorllewinol a dwyreiniol y castell. Ond yr hyn a adawodd argraff......oedd y llen uchel o wal. Roedd y rhan fwyaf o gestyll yn amgaeedig gyda phalisâd pren ond roedd Dolwyddelan yn amgaeedig gyda charreg......... Wrth fynd heibio porth yn y wal ogleddol, fe...........arolygwyd yr adeiladau pren a oedd yn glwstwr ar hyd y waliau gan ganolbwyntio ar y gorthwr dau lawr hirsgwar lle'r oedd y fynedfa wedi ei amddiffyn gan ragadeilad pren..... ac roedd y grisiau yn arwain at y rhagadeilad yn rai carreg........... gorweddai pydew llydan rhwng y grisiau a'r drws i'r rhagadeilad, a'r unig ffordd i'w groesi oedd gyda phont godi.” - o 'Here Be Dragons'
Adeiladwyd Castell Dolwyddelan gan Llywelyn Fawr fel caer i'r tywysogion Cymraeg cynhenid. Yn y 13eg ganrif fe ychwanegodd llen garreg at y gorthwr garreg i amgylchynu'r cwrt. Fe welodd y castell wasanaeth gweithredol yn y 13eg ganrif yn ystod y brwydro ymysg y Cymry ag Edward.
Symud Ymlaen: Ewch yn ôl i'r ffordd a chroesi'r ffordd (ar droed). Trowch i'r chwith a cherdded tuag at y troad yn y ffordd. Mae yna giât cyn i chi gyrraedd ffos ac mae llwybr ar ochr arall y giât. Edrychwch dros y cae ac fe welwch fryncyn creigiog wedi ei orchuddio gyda choed pinwydd. Gallwch gerdded i lawr y llwybr yma i fynd yn nes ond nid oes modd mynd at y safle ei hun.
CASTELL TOMEN
Yn ôl traddodiad roedd y castell Cymraeg yma wedi ei wneud o goed a daear ar y bryncyn creigiog, ac yn ragflaenydd i'r castell carreg yn Nolwyddelan. Yn ôl y sôn cafodd Llywelyn Fawr ei eni yng Nghastell Tomen. Roedd y ddau gastell yn rheoli llwybr hanfodol trwy dde Eryri, ac ardystir pwysigrwydd y safle yma ymhellach gan bresenoldeb hafotiroedd y tywysogion Cymreig. Heddiw mae'r twmpath neu fryncyn wedi ei orchuddio gyda choed a llystyfiant. Mae olion o'r tŵr petryal ar y brig.
Ar hyd y Ffordd: Ar eich chwith, tu ôl i Gastell Dolwyddelan, mae mynydd Moel Siabod. Dywedir fod modd gweld o'r copa, ar ddiwrnod clir, 13 o'r 14 copa uchaf yng Nghymru yn ogystal â golygfa anhygoel o'r bedol sef cefnau'r mynyddoedd bob ochr i Eryri.
Os oes amser gennych beth am ymweld â :
- Eglwys Sant Gwyddelan, Dolwyddelan. Cafodd yr eglwys yma ei hadeiladu yn y 15fed ganrif ond tybir fod y groglen, cloch yr eglwys a'r cerfwaith uwchben yr allor o ‘Ddraig Dolwyddelan' o eglwys hŷn ym Mryn-y-Bedd yn Nolwyddelan a gafodd ei chodi yn y 12fed Ganrif.
I gwblhau'r daith, dychwelwch i'r man cychwyn ym Metws-y-coed.
Ar hyd y Ffordd: Cafodd Betws-y-coed ei ddarganfod o amgylch mynachdy yn y 6 ed ganrif ac fe dyfodd gyda'r diwydiant cloddio plwm. Prif anfantais y pentref rhag tyfu ymhellach oedd y diffyg mannau croesi dros yr afon. Llanrwst oedd y man croesi agosaf. Newidiodd hyn oll pan agorwyd Pont Waterloo yn 1815 gan Thomas Telford. Wedi cwblhau'r bont, daeth Betws y Coed yn un o'r prif fannau gorffwys i'r goets fawr wrth iddi deithio o Lundain i Gaergybi.
Mae lleoliadau’r prif fannau o ddiddordeb i’w gweld isod. Defnyddiwch y botwm 'Satellite' i gael golwg ar y lleoliadau drwy edrych i lawr ar y llun (gwell chwyddo i mewn i ddechrau).
A - Betws-y-Coed
B - Castell Dinas Emrys
C - Beddgelert - Safle'r Porthdy Hela
D - Beddgelert - Eglwys
E - Castell Dolbenmaen
F - Castell Cricieth
G - Castell Dolwyddelan
H - Castell Tomen
I - Eglwys Sant Gwyddelan, Dolwyddelan
Ewch i Googlemap ar gyfer cyfarwyddiadau o’r teithiau
Rhestr o Itemau - Teithiau Gyrru
Taith 1 - Betws-y-Coed i Abergwyngregyn
Ymwelwch â’r Ceiri hynafol canlynol - Castell Conwy a chartref Tywysogion Gwynedd yn Abergwyngregyn, y Ceiri gorau ym Mhrydain o bosib.
Manylion
Taith 2 - Betws-y-Coed, Llanrwst a Trefriw
Taith fer ond y daith fwyaf atgofus mae’n debyg i chi gerdded wrth i chi ddilyn camau Llywelyn Fawr.
Manylion
Taith 3 - Sir Fôn
Ymwelwch â Môn Mam Cymru (Sir Fôn) gyda’i heglwysi atgofus a Chastell Biwmares sy’n safle Treftadaeth y Byd.
Manylion
Taith 4 - Bangor, Caernarfon a Llanberis
O hanes naturiol y Rhaeadr Ewynnol i hanes o waith dyn yng Nghastell Caernarfon a Chadeirlan Bangor.
Manylion
Taith 5 - Beddgelert, Criccieth a Dolwyddelan
Cestyll lu, yn cynnwys hoff gastell Llywelyn Fawr yn Nolwyddelan. (Dach chi ar y dudalen hwn).
Taith 6 - Gogledd Dwyrain Cymru
Gadewch i hanes siarad â chi wrth i chi archwilio gorffennol milain Castell Rhuddlan.
Manylion
www.princesofgwynedd.com
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwestai Betws-y-Coed a'r Cylch