Teithiau Gyrru
Taith 4 - Bangor, Caernarfon a Llanberis
Rhaeadr Ewynnol
Eglwys Gadeiriol Sant Deiniol
Castell Caernarfon
Castell Dolbadarn
Mae'r daith yma yn cychwyn yng ngwychder y Rhaeadr Ewynnol, cyn symud ymlaen i'r Eglwys Gadeiriol ym Mangor, yna ymlaen i Gastell Caernarfon lle gafodd Sais, a wnaethpwyd yn dywysog Cymru am y tro cyntaf, ei eni, ac yn olaf i Gastell Dolbadarn yn Llanberis lle carcharwyd Owain ap Gruffydd am 20 mlynedd a rhagor.
-
Rhaeadr Ewynnol
-
Bangor - Eglwys Gadeiriol Sant Deiniol
-
Castell Caernarfon
-
Llanberis - Castell Dolbadarn
Man Cychwyn: Betws-y-coed LL24 0BN. Mae man aros ar yr ochr dde, gyferbyn â gwesty'r Rhaeadr Ewynnol lle mae modd i chi barcio eich car. LL24 0DW
RHAEADR EWYNNOL
“mae'r afon … yn ymchwyddo ger ei glannau ac yn plymio ac ymwthio dros greigiau ac yn troi'r pwll yn y gwaelod yn grochan berw o ewyn, cadarnhad amhersonol o anfeidroldeb..” - o 'Here Be Dragons'
Mae'r Rhaeadr Ewynnol yn rhaeadr anhygoel ac yn ôl y sôn mae ysbryd Syr John Wynn o Wydir wedi ei ddal o dan y rhaeadr am ei gamweddau.
Symud Ymlaen: Mae'r Eglwys ar gyffordd Ffordd Sackville a'r Stryd Fawr. LL57 1LH
Ar hyd y Ffordd: Wedi i chi basio Capel Curig, y rhes o fynyddoedd ar y dde yw'r Carneddau sydd wedi eu henwi yn Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd. Y llyn ar y dde yw Llyn Ogwen ac mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal ar y chwith. Fel bod fflora naturiol yn tyfu ni chaniateir cadw unrhyw ddefaid tu fewn i'r warchodfa; mewn tymor, fe welwch grug porffor, tormaen nant y mynydd porffor, mwsogl gludlys a suran y mynydd.
BANGOR Fawr Yn Arfon - EGLWYS GADEIRIOL SANT DEINIOL
“… llusgodd [byddin John] yr esgob o'r Brif Allor a'i garcharu yn eu gwersyll yng Nghonwy. Ond, cyn iddynt wneud hynny rhoddwyd yr eglwys gadeiriol a phob tŷ ym Mangor ar dân a'u llosgi i'r llawr..” - o 'Here Be Dragons'
“Mae'r eglwys gadeiriol..... yn groesffurf lân ac wedi ei strwythuro ar gyfer brwydr..... gyda thŵr sgwâr isel enfawr ar y pen gorllewinol wedi ei choroni …” [Geiriadur Topograffaidd Cymru, Lewis (1849)]
Cafodd yr Eglwys Gadeiriol ei sefydlu yn 525 (oddeutu) sy'n golygu ei bod yn hŷn nac Eglwys Gadeiriol Caergaint. Cafodd yr eglwys ei dinistrio gan ddynion y Brenin John yn 1211 ond cafodd ei hailadeiladu yn ddiweddarach, gyda'r groesfa ddeheuol yn oddeutu 1275 a'r groesfa ogleddol yn oddeutu 1300.
Mae'r trefniant mewnol presennol, sydd ar fin gael ei ddefnyddio fel eglwys y plwyf, yn gwahaniaethu'n sylweddol o ran addurn o'i gymharu ag eglwysi cadeiriol yn gyffredinol. Mae bedd Gruffydd ab Cynan, Brenin Gogledd Cymru, ar y dde i'r allor ac o dan fwa yn rhan ddeheuol y groesfa mae arddelw mewn maen o'i olynydd sef Owain Gwynedd- taid Llywelyn Fawr.
Symud Ymlaen: Wrth i chi gyrraedd Caernarfon, mae yna lawer o feysydd parcio a dylai fod yn ddigon hawdd darganfod y castell. LL55 2AY
Ar hyd y Ffordd: Mae'r Fenai ar y dde sy'n rhannu'r prifdir gyda Sir Fôn. Mae dŵr llanw isel cul oddeutu 14 milltir o hyd rhwng y ddau dir. Mae'r llanw yn llifo i'r culfor yma o bob pen gan achosi cerrynt cryf ac amgylchiadau peryglus. Rhwng dŵr y bont yw un o'r ardaloedd mwyaf peryglus sef Pwll Ceris; mae'r creigiau sy'n agos i'r wyneb yn achosi trobyllau ac yn cynhyrfu'r dŵr ar y wyneb. Mae myned i'r culfor yma o gyfeiriad Caernarfon yn beryg am fod y banc tywod yn symud yn rheolaidd a dyma sy'n ffurfio traethell Caernarfon.
CASTELL CAERNARFON
“Mae gan Llywelyn lysoedd yn Aber, Aberffraw ar Ynys Môn, Caer yn Arfon, a rhagor o lysoedd a phorthdai hela ar wasgar ym Mynyddoedd Eryri” - o 'Here Be Dragons'
“Mae'r gaer ysblennydd yma, gyda'i faint a'i harddwch pensaernïol yn edmygedd yr holl wlad, a gweddillion y castell yn arddangos ei odidowgrwydd a'i fawredd gwreiddiol wrth drigo ar y graig yn hyf dros fae Caernarfon, gyda'r Fenai ar un ochr ac Aber Seiont ar yr ochr arall, ac ar y trydydd ac yn rhannol ar y pedwerydd ochr mae cilfach o'r culfor.” [Geiriadur Topograffaidd Cymru, Lewis (1849)]
Cafodd y castell presennol ei adeiladu gan Edward I yn 1283 a chredir ei fod ar safle castell Llywelyn Fawr. Er hynny, fe gafodd y safle effaith enfawr ar Gymru gyda phenaethiaid Cymru yn gwrthod ildio ac ufuddhau i Edward I fel brenin Cymru nac i unrhyw berson arall nad oedd o Gymry. Felly, fe orchmynodd Edward i'w wraig Eleanor ddod i Gastell Caernarfon a phan gyrhaeddodd y castell fe roddodd enedigaeth i'w fab. Fe gyflwynodd Edward I y tywysog yma i benaethiaid Cymru fel eu brenin yn y dyfodol gan ddweud ‘Ich Dien' (‘Eich Dyn') a defnyddir yr arwyddair yma gan y tywysog hyd heddiw.
Symud Ymlaen: Wrth i chi gyrraedd Llanberis, ewch heibio'r Mynydd Gwefru (LL55 4UR) ac yn y cylchfan cymrwch y fynedfa gyntaf - dyma'r maes parcio agosaf at y Castell. O'r maes parcio, mae angen croesi'r ffordd a chymryd y llwybr cerdded gyferbyn â'r Castell.
Ar hyd y Ffordd: Cyn i chi gyrraedd Llanberis, mae llys arall sydd oddeutu milltir i'r gogledd. Yn anffodus nid oes modd mynd ato am ei fod ar dir preifat ond yn ôl y sôn fe gafodd Llys Dinorwig ei adeiladu gan Llywelyn ein Llyw Olaf. Ychydig ohono sy'n sefyll bellach ac ychydig iawn a wyddwn amdano.
LLANBERIS - CASTELL DOLBADARN
“Wedi ei leoli ar fryncyn creigiog wythdeg troedfedd uwchben Llyn Padarn, roedd castell Dolbadarn yn rheoli'r daith rhwng Caer yn Arfon i Ddyffryn Conwy … y gorthwr dau lawr … gyda'r mynyddoedd yn adlewyrchu yn nyfnderoedd glas y llynnoedd.” - o 'Here Be Dragons'
Golygai lleoliad strategol Castell Dolbadarn fod gwarchodlu yn y cyfnod hynny yn gallu ymwrthod unrhyw symudiad drwy'r bwlch a oedd (ac sy'n dal i fod) yn brif gysylltiad drwy Ogledd Cymru. Byddai'r brif fynedfa wedi bod ar lefel y llawr cyntaf, ac yr unig ffordd o allu cyrraedd y llawr gwaelod fyddai drwy geuddrws. Yn 1255, roedd brwydr rhwng tri brawd, gyda Owain ap Gruffydd a Dafydd ap Gruffydd ar un ochr a Llywelyn ein Llyw Olaf ar yr ochr arall. Llywelyn oedd yn fuddugol ac fe garcharodd ei frawd hynaf, Owain am 22 o flynyddoedd. Credir fod Owain wedi ei garcharu yng Nghastell Dolbadarn ond mewn amgylchiadau gymharol gyfforddus ar yr ail lawr yn hytrach nag ar y llawr gwaelod heb olau dydd. Mae dwy chwedl ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd i Dafydd; yn un chwedl fe lwyddodd i ddianc ac yn y chwedl arall fe gafodd ei ddal ond fe dderbyniodd faddeuant wedi blwyddyn! Yn ôl pob sôn roedd Castell Dolbadarn yn gaer hynafol o'r enw ‘Castell Bere', lle roedd gan Dafydd ap Gruffydd warchodlu cryf i amddiffyn y castell yn erbyn byddin y Saeson, ond digalonwyd y Cymry'n llwyr gyda marwolaeth eu tywysog gan ildio'r castell yma i'r brenin. Mae'n bwysig peidio â drysu rhwng Castell Dolbadarn/Bere a Chastell y Bere yn Nyffryn Dysynni a oedd yn amddiffyn ffin ddeheuol Gwynedd.
I gwblhau'r daith, dychwelwch i'r man cychwyn ym Metws-y-coed. LL24 0BN
Ar hyd y Ffordd: Mae dros 100 o lynnoedd sydd dros 1 acer (o ran maint) o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Y ddau lyn yn Llanberis yw Llyn Padarn a Llyn Peris. Mae'r ddau lyn yma yn gronlynnoedd Marian; marian yw pentwr o graig a gwaddod a gafodd ei adael ar ôl wedi'r rhewlif doddi gan ffurfio argae a llyn main hir a elwir yn aml yn llyn rhuban. Bellach caiff Llyn Peris ei ddefnyddio fel cronfa ddŵr i ffactri hydro-electrig yn Ninorwig.*
Mae lleoliadau’r prif fannau o ddiddordeb i’w gweld isod. Defnyddiwch y botwm 'Satellite' i gael golwg ar y lleoliadau drwy edrych i lawr ar y llun (gwell chwyddo i mewn i ddechrau).
A - Betws-y-Coed
B - Rhaeadr Ewynnol
C - Bangor - Eglwys Gadeiriol Sant Deiniol
D - Caernarfon
E - Castell Dolbadarn
Ewch i Googlemap ar gyfer cyfarwyddiadau o’r teithiau
Rhestr o Itemau - Teithiau Gyrru
Taith 1 - Betws-y-Coed i Abergwyngregyn
Ymwelwch â’r Ceiri hynafol canlynol - Castell Conwy a chartref Tywysogion Gwynedd yn Abergwyngregyn, y Ceiri gorau ym Mhrydain o bosib.
Manylion
Taith 2 - Betws-y-Coed, Llanrwst a Trefriw
Taith fer ond y daith fwyaf atgofus mae’n debyg i chi gerdded wrth i chi ddilyn camau Llywelyn Fawr.
Manylion
Taith 3 - Sir Fôn
Ymwelwch â Môn Mam Cymru (Sir Fôn) gyda’i heglwysi atgofus a Chastell Biwmares sy’n safle Treftadaeth y Byd.
Manylion
Taith 4 - Bangor, Caernarfon a Llanberis
O hanes naturiol y Rhaeadr Ewynnol i hanes o waith dyn yng Nghastell Caernarfon a Chadeirlan Bangor. (Dach chi ar y dudalen hwn).
Taith 5 - Beddgelert, Criccieth a Dolwyddelan
Cestyll lu, yn cynnwys hoff gastell Llywelyn Fawr yn Nolwyddelan.
Manylion
Taith 6 - Gogledd Dwyrain Cymru
Gadewch i hanes siarad â chi wrth i chi archwilio gorffennol milain Castell Rhuddlan.
Manylion
www.princesofgwynedd.com
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwestai Betws-y-Coed a'r Cylch