tywysogion gwynedd

Teithiau Gyrru

Taith 3 - Sir Fôn

Priordy Penmon

Priordy Penmon

Eglwys Sant Seiriol

Eglwys Sant Seiriol

Castell Biwmares

Castell Biwmares

Eglwys y Santes Fair a Sant Niclas

Eglwys y Santes Fair a Sant Niclas

Aberffraw - Eglwys Sant Beuno

Aberffraw - Eglwys Sant Beuno

Mae'r daith yma'n eich arwain i Sir Fôn i gael golwg ar Briordy Penmon, Llanfaes lle bu Siwan yn alltud am gyfnod, cyn symud ymlaen i Fiwmares lle mae arch Siwan yn yr eglwys ac yn olaf i Lys Rhosyr ac Aberffraw, y ddau le yn Llysoedd Brenhinol am nifer o ganrifoedd.

  • Penmon
    • Priordy Penmon
    • Eglwys a Ffynnon Sant Seiriol
  • Aberlleiniog
  • Llanfaes
  • Biwmares
    • Castell Biwmares
    • Eglwys y Santes Fair a Sant Niclas
  • Niwbwrch - Llys Rhosyr
  • Aberffraw
  • Llangadwaladr

Man Cychwyn: Betws-y-coed.

Ar hyd y Ffordd:

Bydd yr A5 yn eich arwain trwy Ddyffryn Ogwen. Dyffryn Ogwen yw'r dyffryn mwyaf gogleddol allan o'r prif ddyffrynnoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae'r mynyddoedd sy'n amgylchynu'r dyffryn yn oddeutu 1,000 metr o uchder ac mae'r tirwedd yn amrywio llawer gyda chlogwyni yn cyrraedd oddeutu 300-400m mewn uchder sy'n hynod o boblogaidd gyda dringwyr. Mae gweundiroedd agored hefyd gyda grug, rhedyn a defaid, yn ogystal ag ardaloedd gyda choedwigoedd trwchus o amgylch Capel Curig.

Mae dwy bont dros y Fenai sy'n ymuno'r tir mawr gyda Sir Fôn; sef Pont Menai a Phont Britannia. Erstalwm, fferi oedd yr unig ffordd i groesi'r Fenai a phan ymunodd Iwerddon â Phrydain drwy'r Deddfau Uno yn 1800, rhoddwyd y dasg i Thomas Telford wella'r cyswllt rhwng Llundain a Chaergybi, ac fel rhan o'r dasg fe adeiladodd Pont Menai a gafodd ei chwblhau yn 1824. Pont grog yw Pont Menai ond mae'n bont anghyffredin – gwnaethpwyd yn siŵr fod gofod gwbl glir o 100 troedfedd oddi tanodd fel bod cychod yn gallu hwylio heibio. Cafodd Pont Britannia ei dylunio'n wreiddiol ar gyfer y rheilffordd gan Robert Stephenson, a agorwyd yn 1850, ond cafodd ei ail-ddylunio yn y 1970au i gario ffordd yn ogystal â rheilffordd.

YNYS MÔN

Gellir cyfeirio at Sir Fôn fel basged fara Gogledd Cymru yn ystod y canoloesoedd - byddai'r tir yn darparu cnydau fyddai'n bwydo pobl Gogledd Cymru yn ystod misoedd y gaeaf.

PRIORDY PENMON, EGLWYS a ffynnon SANT SEIRIOL - LL58 8SP

“Yn ôl rhai haneswyr, cafodd y priordy, yn wreiddiol, ei ddarganfod yn y chweched ganrif gan Maelgwyn Gwynedd, ac yna ehangwyd arno gan Gruffydd ap Cynan a apwyntiodd ei fab Idwal yn 1140. Yn 1220 gwnaethpwyd ychwanegiadau pellach gan Llywelyn ap Iorwerth drwy ddod â mynachod o'r Urdd Fenedictaidd iddi, a fu'n berchen ar y priordy hyd at gyfnod y Diddymiad …” [Geiriadur Topograffaidd Cymru, Lewis (1849)].

Darganfuwyd Priordy Penmon ar eglwys gyfagos gan Sant Seiriol oedd yn feudwy (hermit) yn y 6ed Ganrif ac mae sylfaeni ei gell ger y ffynnon yng nghefn yr eglwys. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o 1140 pan gafodd ei ailadeiladu gan Owain Gwynedd ac mae corff yr eglwys o'r cyfnod hynny. O ganlyniad i ddylanwad Llywelyn Fawr, daeth yn briordy Awstinaidd yn y 13eg Ganrif pan gynyddodd Llywelyn Fawr gyllid y priordy - fe ganiataodd siarter i Briordy Penmon yn 1221. Yn 1237 fe ganiataodd Llywelyn Fawr siarter pellach i Benmon gan roi hawliau iddynt dros dir yn cynnwys tiroedd Lleiniog (gweler Castell Aberlleiniog isod). Credir gall rhan o wal yr eglwys fod mor hen â'r 6ed Ganrif a fyddai'n ei wneud yr adeilad Cristnogol hynaf yng Nghymru. Mae dau groes hynafol, o oddeutu'r 9fed/10fed Ganrif o fewn corff yr eglwys a fyddai mwy na thebyg wedi sefyll ger y porth yn y lloc mynachaidd.

Symud Ymlaen: O'r maes parcio, trowch i'r chwith ym mynediad y maes parcio a cherdded ar hyd ymyl y ffordd am oddeutu 150 metr. Mae mynediad i'r llwybr cerdded (cadwch lygad allan am bolion pren, giât mochyn a giât cae - dyma gychwyn y llwybr) ar y dde wedi'r bont.

Os oes gennych chi amser, ewch i ymweld â:

  • Castell Aberlleiniog
    Cafodd y castell bychan, na ŵyr llawer amdano, ei adeiladu oddeutu 1088 gan Huw o Avraches, Iarll Caer, yn dilyn ei fuddugoliaeth dros lu Gruffydd ap Cynan, Brenin Gwynedd, a oedd yn hen daid i Llywelyn Fawr. Pan lwyddodd Gruffydd i osgoi carchariad yng Nghaer fe gasglodd ei fyddin ynghyd yn 1094 gan ymosod ar y castell a'i losgi i'r llawr. Adeiladwyd castell mwnt a beili gyda ffos o'i amgylch yn Lleiniog yn ystod y 1630au gan Thomas Cheadle.
    Disgrifia'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru y castell “fel strwythur carreg ganoloesol, mwyafrif yn adfail, oddeutu 60 troedfedd sgwâr gyda thyrau crwn ar dri chornel wedi eu hadfer, yn ddiamheuol roedd pedwerydd tŵr ond nid oes gweddillion ohono'n bodoli bellach. Roedd 5 dolen hirsgwar i bob un gyda dadlennau sblae. Ar yr ochr Ogledd Gorllewinol mae geudy wedi ei ffurfio o gorbel garw sy'n cynnal llechfaen. Mae 3 bwtres ar bob wal, sydd wedi eu hychwanegu, ond mae safle'r geudy'n awgrymu eu bod yn cymryd lle rhai cynharach. Mae'n debyg fod y strwythur yn un o ddiwedd y canoloesoedd....”.
    500 metr i'r dwyrain, mae tomen castell arall lle credir ei fod yn allfur i'r prif gastell (ar ochr ogleddol i'r maes parcio).
  • Llanfaes - LL58 8LG
    “Claddwyd Siwan ar ddiwrnod llym ym mis Chwefror. Bachgen 8 oed oedd Llywelyn ond bedwar degawd yn ddiweddarach roedd yr atgof mor fyw ac erioed; dim ond cau ei lygaid a byddai'n gweld ei daid yn sefyll ar ei ben ei hun ger beddrod marmor Siwan. Nawr, ei dro ef oedd claddu ei wraig yn Llanfaes … Bob tro edrychai i fyny fe welai olau'r haul yn llifo'n gynnes trwy'r ffenestri ac fe gafodd ei synnu wrth iddo ddisgwyl i wydyr y ffenestri fritho gyda glaw oeraidd mis Chwefror.” - o 'The Reckoning'
    Llanfaes oedd prif borthladd a marchnad Gwynedd, gyda chysylltiadau masnachu yn codi trethi i dalu am y rhyfeloedd yn erbyn Lloegr. Cafodd Siwan ei halltudio i Lanfaes, yn dilyn ei ‘pherthynas' honedig gyda Gwilym Brewys. Yn 1237, fe dalodd Llywelyn Fawr i Fynachlog Ffransisgaidd dderbyn corff ei wraig, a fu farw yn Aber. Wedi hynny, cafodd rhai merched brenhinol eraill o Wynedd eu claddu yma gan gynnwys Senena a Eleanor de Montfort, y naill ar ôl y llall, yn fam a gwraig i Llywelyn ein Llyw Olaf. Nid oes modd mynd at safle'r Fynachlog, a beth bynnag, ychydig iawn o weddillion sydd ar ôl o'r adeilad bellach; mae arch Siwan nawr ym Miwmares. Wrth i gastell Biwmares gael ei adeiladu, cafodd pentref Llanfaes ei ddiboblogi ac fe symudodd y bobl i fwrdeistref newydd Niwbwrch sydd ymhellach ymlaen ar y daith hon.

Symud Ymlaen

Ar hyd y Ffordd: Nid cysyniad newydd yw ‘Ethnic cleansing' o bell ffordd. Pan gyrhaeddodd Edward I Llanfaes am y tro cyntaf fe orfododd y Cymry i symud i bentref newydd o'r enw Niwbwrch. Er hynny, roedd yr effaith i'w weld ar ei waethaf yn nhrefi Conwy, Caernarfon a Biwmares. Ni chaniatawyd unrhyw Gymry i'r trefi lle'r oedd y Saeson yn byw ymysg ychydig o Wyddelod, a phobl o Gascon a Safoi. Cafodd y Cymry eu gyrru allan o 1,500 hectar o amgylch y trefi hefyd fel bod tir ar gyfer y gwladychwyr i dyfu cnydau ac i gadw anifeiliaid. Cafodd y Cymry eu gyrru allan o bentrefi Aberystwyth a Lleweni hefyd.

BIWMARES - LL58 8DA

“Roedd [Edward I] yn benderfynol o godi castell a oedd yr un mor gryf a phwysig â'r rhai a gafodd eu hadeiladu yng Nghaernarfon a Chonwy, gyda gwarchodlu fyddai pobl yn eu hofni er mwyn gwrthweithio ymdrechion ac ysbryd di-daw'r Cymry” [Geiriadur Topograffaidd Cymru, Lewis (1849)]

Gwnaethpwyd Sir Fôn gan Lywelyn ein Llyw Olaf, a Madog wedi yntau (yn ôl y sôn roedd yn gefnder pell i Llywelyn) yn theatr o sawl gwrthryfel ac fe gododd Edward I gastell i wrthweithio yn erbyn ysbryd parhaus y Cymry. Adeiladwyd Castell Biwmares ar gyfer Edward I a gafodd ei gwblhau yn 1296. Mae arddangosfa yna gyda manylion o hanes y castell yn cynnwys meddianiad Owain Glyndŵr. Mae gan Eglwys y Santes Fair a Sant Niclas drysorau nodedig gan gynnwys sedd côr sydd yn ôl y sôn wedi dod o Briordy Llanfaes ag arch a chaead maen Siwan. Gwaetha'r modd ni ŵyr lle mae gweddillion Siwan. Yn rhyfedd iawn fe ddiflannodd corff Llywelyn Fawr hefyd wedi iddynt symud ei arch pan dynnwyd Abaty Aberconwy i lawr.

Symud Ymlaen. Wrth gyrraedd Niwbwrch mae'n debyg ei bod hi'n haws parcio ger Athrofa Prichard Jones. Mae modd cerdded i fyny at Lys Rhosyr wedi i chi weld y sioe a'r arddangosfa.

NIWBWRCH - LLYS RHOSYR - LL61 6SY

“…fe gerddodd yn y dolydd ger Rhosyr, yn ofalus i beidio â mentro i'r corsydd oedd yn arwain i'r gorllewin, lle'r oedd Afon Cefni yn llifo i'r môr.” - o 'Here Be Dragons'

Roedd Llys Rhosyr yn Llys Brenhinol a gafodd ei ddatblygu yn balas gan Llywelyn Fawr. Cafodd siarter gan Llywelyn Fawr ei godi yma yn 1237. Cafodd Gwynedd ei lywodraethu o neuaddau fel Rhosyr. Pan oedd y brenin yn bresennol yn y llys byddai siawns iddo alw ar ei gynghorwyr a dynion pwysig eraill o'r cantref i gwrdd ag ef; gwnaethpwyd y busnes yn y neuadd yn ystod y dydd ac yn y nos byddai gwledda ac adloniant o amgylch aelwyd anferth o dân. Daeth y gwaith yn Rhosyr i ben pan gafodd Llywelyn ein Llyw Olaf ei ladd yn 1282 - mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd wedi cloddio'r safle.

Cyn i chi fynd i Lys Rhosyr, ewch i ymweld ag Athrofa Prichard Jones i weld y sioe a'r arddangosfa weledol a chlywedol sy'n gyflwyniad i fywyd mewn Llys Brenhinol (gwiriwch beth yw'r oriau agor cyn mynd gan nad yw'n agored bob dydd) ac yna ewch am dro i safle archeolegol Llys Rhosyr.

Am ragor o wybodaeth ar Lys Rhosyr, ymwelwch â: http://www.heneb.co.uk/palaceoftheprinces/rhosyr.html

Symud Ymlaen

ABERFFRAW - LL63 5BX

“Gwnaethpwyd y lle yma'n enwog sydd gyda'i henw'n deillio o geg afon fechan y Ffraw, mewn cyfnod cynnar iawn fel prif gartref tywysogion hynafol Gogledd Cymru,........ wedi symud sedd y llywodraeth i Gaer Seiont, (Caernarfon), cafodd ei ail sefydlu yn Aberffraw, yn y flwyddyn 870, gan Rhydderch Fawr….fe sefydlodd Rhydderch ei farnweiniad llys goruchaf yma a barhaodd i fod yn gartref cyffredin i frenhinoedd Cymru tan fu Llywelyn farw yn 1282.” [Geiriadur Topograffaidd Cymru, Lewis (1849)]

Aberffraw oedd prif gartref tywysogion hynafol Gogledd Cymru, ac fe adeiladodd un ohonynt, sef Caswallon Law Hîr, balas yng nghanol y pumed ganrif. Roedd gan Llywelyn Fawr y teitlau canlynol- Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri fel arwydd symbolaidd. Heddiw, mae bwa cangell Rufeinaidd wych o'r 12fed ganrif yn Eglwys Sant Beuno, sef darn o gapel brenhinol y Llys (ar gyfer mynediad i'r eglwys, gofynnwch yn y Swyddfa Bost yng nghanol y pentref). Yn ôl hanes, y gred yw bod y Llys (y llys brenhinol) oddi tan canol y pentref presennol.

Os oes gennych chi amser, ewch i ymweld â :

  • Llangadwaladr - Cred fod Eglwys Sant Cadwaladr yn gapel brenhinol ac yn fan claddu ar gyfer y llys yn Aberffraw yn y 6ed Ganrif. Mae ffenestr yn dyddio'n ôl i'r 12fed Ganrif. SY10 7QP

Os oes gennych chi ragor o amser yna ewch i ymweld â'r canlynol (dydyn nhw ddim yn llefydd haws i'w cyrraedd):

  • Hen Gapel Llugwy - Mae'r capel yma, sydd heb do ac yng nghanol nunlle, yn arddangos gwaith adeiladu rhwng y 12fed a'r 14eg ganrif ac mae'n debyg mai dyma safle'r llys ym Mhenrhosllugwy. LL72 8NH
  • Cemaes/Eglwys Llanbadrig - Pentref mwyaf gogleddol Cymru oedd ar un adeg yn borthladd prysur. Yn wreiddiol roedd yr eglwys (rhan o'r 12fed ganrif) yn gapel brenhinol gyda chysylltiad â Llys Cemaes. LL67 0LN

I gwblhau'r daith, dychwelwch i'r man cychwyn ym Metws-y-coed. LL24 0BN

Ar hyd y ffordd: Fe dyfodd pentref Bethesda o ganlyniad i'r chwareli llechi a maen yn yr ardal. Mae gan lechan yr ardal sy'n liw glas- gwyrdd tywyll, enw da am ei safon uchel. Y chwarel lechi fwyaf yw Chwarel Penrhyn a gafodd ei ddatblygu yn 1770. Chwarel Penrhyn, sy'n chwarel milltir o hyd a 1200 troedfedd o ddyfnder yw chwarel lechi fwya'r byd. Cafodd elw o'r chwarel ei ddefnyddio i ariannu adeiladwaith Castell Penrhyn gerllaw ym Mangor. Nodwedd o'r castell yw gwely pedwarawd maen allan o lechan Penrhyn sy'n pwyso pedair tunnell.

Mae lleoliadau’r prif fannau o ddiddordeb i’w gweld isod. Defnyddiwch y botwm 'Satellite' i gael golwg ar y lleoliadau drwy edrych i lawr ar y llun (gwell chwyddo i mewn i ddechrau).

A - Betws-y-Coed
B - Penmon
C - Castell Aberlleiniog
D - Llanfaes
E - Castell Biwmares
F - Eglwys y Santes Fair a Sant Niclas
G - Athrofa Prichard Jones
H - Llys Rhosyr
I - Aberffraw
J - Llangadwaladr
K - Hen Capel Lligwy
L - Cemaes/Eglwys Llanbadrig

Ewch i Googlemap ar gyfer cyfarwyddiadau o’r teithiau

Ewch i Googlemap ar gyfer cyfarwyddiadau o’r teithiau

Rhestr o Itemau - Teithiau Gyrru

Taith 1 - Betws-y-Coed i Abergwyngregyn

Ymwelwch â’r Ceiri hynafol canlynol - Castell Conwy a chartref Tywysogion Gwynedd yn Abergwyngregyn, y Ceiri gorau ym Mhrydain o bosib.
Manylion

Taith 2 - Betws-y-Coed, Llanrwst a Trefriw

Taith fer ond y daith fwyaf atgofus mae’n debyg i chi gerdded wrth i chi ddilyn camau Llywelyn Fawr.
Manylion

Taith 3 - Sir Fôn

Ymwelwch â Môn Mam Cymru (Sir Fôn) gyda’i heglwysi atgofus a Chastell Biwmares sy’n safle Treftadaeth y Byd. (Dach chi ar y dudalen hwn).

Taith 4 - Bangor, Caernarfon a Llanberis

O hanes naturiol y Rhaeadr Ewynnol i hanes o waith dyn yng Nghastell Caernarfon a Chadeirlan Bangor.
Manylion

Taith 5 - Beddgelert, Criccieth a Dolwyddelan

Cestyll lu, yn cynnwys hoff gastell Llywelyn Fawr yn Nolwyddelan.
Manylion

Taith 6 - Gogledd Dwyrain Cymru

Gadewch i hanes siarad â chi wrth i chi archwilio gorffennol milain Castell Rhuddlan.
Manylion

Gwybodaeth Cysylltu

Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod:

Ffôn: 01690 710601
E-bost:
info at princesofgwynedd dot com

www.princesofgwynedd.com

pen y dudalen pen y dudalen argraffu’r dudalen hon argraffu'r dudalen hon