tywysogion gwynedd

Teithiau Gyrru

Taith 2 - Betws-y-Coed, Llanrwst a Trefriw

Trefriw

Trefriw

Arch Garreg Llywelyn Fawr

Arch Garreg Llywelyn Fawr

Eglwys y Santes Fair, Trefriw

Eglwys y Santes Fair, Trefriw

Eglwys Llanrhychwyn

Eglwys Llanrhychwyn

Castell Gwydir

Castell Gwydir

Eglwys San Mihangel - arddelw

Eglwys San Mihangel - arddelw

Mae'r daith yma yn eich arwain o Abaty Maenan, i Lanrwst i ymweld ag arch carreg Llywelyn Fawr, ymlaen at eglwys a sefydlwyd gan Llywelyn Fawr, ac yna i Gastell Gwydir lle mae manylion pensaernïol am Abaty Maenan.

  • Abaty Maenan
  • Llanrwst - Eglwys Sant Crwst
  • Trefriw
    • Eglwys y Santes Fair
    • Capel Ebeneser
    • Eglwys Llanrhychwyn
  • Castell Gwydir
  • Betws-y-coed - Eglwys San Mihangel

Pwynt Cychwyn: Betws-y-coed. LL24 0BN. Abaty Maenan LL26 0UL

Ar hyd y Ffordd: Arferai'r ardal o gwmpas Betws-y-coed fod yn llawer mwy coediog nag y mae heddiw, lle'r oedd y bobl yn byw mewn tyddynnod a phob tyddyn gyda darn bychan o dir pori wedi ei dorri o'r goedwig. Mae adfeilion un tyddyn yn bodoli hyd heddiw hanner ffordd i fyny llwybr cerdded sy'n arwain o Fetws -y-Coed i Lyn Elsi, ar y llwybr cerdded sy'n cychwyn tu ôl i Eglwys y Santes Fair.

ABATY MAENAN

“Cafodd mynachlog Aberconwy ei ddymchwel, canolfan ysbrydol Gwynedd; codwyd cartref newydd i'r mynaich ym Maenan, deuddeg cilometr i ffwrdd.......symudwyd yn gyflym i glirio'r safle yn Aberconwy; yr oedd y gwaith ar droed erbyn Mawrth 1283 a mynychodd y brenin y seremoni gysegru ym Maenan ar Sul y Pasg 1284.”[o lyfr Hanes Cymru gan John Davies 1990]

Roedd Edward I eisiau adeiladu castell ar safle Abaty Aberconwy. Pe bai wedi troi'r mynachod allan byddai'r Pab wedi ei erlyn, felly talodd iawndal o £40 iddynt yn ogystal â rhoi tir ym Maenan a deunyddiau adeiladu er mwyn codi Abaty newydd.

Ychydig sydd i weld bellach ond mae cynllun o gloddiad a wnaethpwyd ym 1960 yng nghyntedd y gwesty. Mae'r goeden gedrwydden ger y ffordd fwy neu lai yng nghanol yr abaty yn ôl y son yn nodi'r man lle claddwyd Llywelyn Fawr yn yr abaty. Credir pan gafodd llawer o'r adeiladau eu tynnu lawr yn 1563, fod plasty wedi ei adeiladu gyda'r deunyddiau ger y man. Bwa bychan yw'r unig ran o Abaty Maenan sydd bellach yn sefyll.

I weld rhannau a gredir sy'n dod o Abaty Maenan ymwelwch â Chapel Gwydir yn Eglwys Sant Crwst, Llanrwst (to rhwyllog a cherfiedig); Eglwys Llanrhychwyn, Trefriw (cloch eglwys); a Chastell Gwydir (grisiau tro a gwaith maen cerfiedig).

Symud Ymlaen: Eglwys Sant Crwst, Llanrwst, oddi ar Y Sgwâr, tu hwnt i'r Elusendai. LL26 0LE

Ar hyd y Ffordd: Byddwch yn gyrru drwy harddwch Dyffryn Conwy sy'n dilyn taith yr Afon Conwy. Ger Llanrwst defnyddiwyd Afon Conwy i fordwyo cychod yn cario llechi a deunyddiau o'r cloddfeydd i lawr yr afon, gyda llwyth yn cynnwys glo yn fwy na dim yn ogystal â halen a bwyd i fyny'r afon. Y prif borthladd ar yr afon yn y 19eg ganrif oedd Trefriw, a oedd yn ei hanterth yn ymdrin â phedwar cant o gychod yn flynyddol. Hoffai teuluoedd Fictorianaidd yrru rhodlong o Landudno i Drefriw ar gyfer y dŵr yn y Sba Rufeinig.

LLANRWST - CAPEL GWYDIR, EGLWYS SANT CRWST

Dywedwyd fod y to rhwyllog a cherfiedig (a'r galeri o dderw cerfiedig o bosib) yn arfer perthyn ar un adeg i Abaty Maenan. Yn gorwedd ar y llawr mae arch garreg Llywelyn Fawr a gafodd ei gladdu yn yr abaty yn Aberconwy, cyn ei symud i Faenan, ac wedi Diddymiad y Mynachlogydd cafodd yr arch ei symud i hen eglwys blwyf yn Llanrwst wedi iddo gael ei ddarganfod yn yr afon. Ni ŵyr lleoliad gweddillion Llywelyn Fawr.

Hywel Coetmor yw'r arddelw maen, y gŵr a adeiladodd y castell cyntaf ar safle Castell Gwydir ac roedd Dafydd ap Gruffydd yn hen hen daid iddo. Mae'r dabled o farmor gwyn yng nghornel ddwyreiniol y capel yn cynnwys llinach aelod o deulu'r Wyniaid sydd wedi dyfalbarhau i geisio profi fod y teulu'n ddisgynyddion o Dywysogion Cymru.

Symud Ymlaen. Croeswch y bont dros yr afon; dyma bont un trac ac mae angen cadw llygad allan am draffig sy'n dod i'ch cyfarfod. Wrth i chi ddod i mewn i bentref Trefriw fe welwch Felin Wlân Trefriw ar y chwith. Mae angen i chi gymryd troad i'r dde yn union gyferbyn â'r felin - mae maes parcio ceir lawr y ffordd yma. LL27 0NQ

Ar hyd y Ffordd. Yn ôl y sôn cafodd y bont dros yr afon, sef y Bont Fawr, ei hadeiladu gan Inigo Jones yn 1636. Ochr arall i'r bont o dref Llanrwst mae Tu Hwnt i'r Bont, bwthyn o'r 15fed Ganrif, a arferai fod yn llysty ar un adeg ond bellach mae'n ystafell de ac yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

TREFRIW

Cerddwch yn ôl i fyny'r ffordd fawr lle mae'r Felin Wlân a throi i'r dde dros y bont. Mae'r goriad ar gyfer Eglwys y Santes Fair i'w gael o'r caffi - mae'r Eglwys oddeutu 50 llath i lawr ar y chwith.

EGLWYS Y SANTES FAIR

“Mae ganddo ef [Llywelyn Fawr] borthdy hela yn Nhrefriw yn Nyffryn Conwy. Yr eglwys agosaf yw Rhychwyn, oddeutu dwy filltir i fyny llwybr mynyddig ar droed a oedd yn rhy serth i geffylau, a phan sylweddolodd fod Siwan yn disgwyl ei blentyn, fe orchmynnodd fod eglwys yn cael ei adeiladu yn Nhrefriw fel nad oedd hi'n gorfod cerdded.” - o 'Here Be Dragons'

Darganfuwyd Eglwys Trefriw yn 1230 gan Llywelyn Fawr a'i wraig, Siwan. Mae portread o Llywelyn Fawr a Siwan mewn ffenestr wydr lliw yn yr eglwys. Gwaetha'r modd, ychydig iawn o'r eglwys wreiddiol sydd ar ôl o ganlyniad i ail adeiladu yn y 15fed a'r 16eg Ganrif.

LLYS LLYWELYN FAWR

Mae lleoliad llys Llywelyn yn ansicr ond roedd Trefriw yn llys pwysig i dywysogion yn y 12fed a'r 13eg ganrif. Caiff Capel Ebeneser (ar ochr y ffordd ger y caffi yn Nhrefriw) ei gydnabod fel un safle posib ar gyfer llys Llywelyn, lle bu'n aros tra roedd Eglwys y Santes Fair yn cael ei adeiladu. Mannau eraill posib yw oddi tan iard glo presennol Gwesty'r Fairy Falls, ac i'r de ddwyrain o'r eglwys blwyf bresennol (Santes Fair).

Os oes gennych chi amser, ewch i ymweld â:

  • Eglwys Llanrhychwyn - Gweler taith gerdded 1
    “O'ch blaen mae Llanrhychwyn, capel bychan a garw o faen hindreuliedig, wedi ei gysgodi gan gymylau ac wedi ei amgylchynu gan ddistawrwydd. Coed ywen, llawer ohonynt, yn sugno'r haul - gwylwyr o'r amser a fu … ymddangosai ei fod yn perthyn i oes arall, i'r coedwigoedd tywyll ac i'r rhai sy'n cysgu o dan laswellt uchel ei mynwent yn hytrach na'r rhai byw.” - o 'The Reckoning'
    Sefydlwyd Eglwys Llanrhychwyn yn y 6ed Ganrif ac yn ystod amser Llywelyn yn y pentref, roedd Llanrhychwyn yn fwy na Threfriw. Mae rhannau mwyaf hynafol yr eglwys o'r 13eg Ganrif ond credir fod y ffont yn hanu o'r 11eg Ganrif. Credir fod cloch yr eglwys o'r 14eg Ganrif ac wedi dod o Abaty Maenan.

Symud Ymlaen - LL26 0PN

Ar hyd y Ffordd: Mae canran uchel o'r coed ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn goed conwydd erbyn hyn, a'r rhan fwyaf wedi eu plannu gan y Comisiwn Coedwigaeth ar gyfer dibenion masnachol. Mae Coedwig Gwydyr, y goedwig rydych chi'n gyrru drwyddi nawr, wedi aros fwy neu lai yn llydan-ddeiliog. Llydan-ddeiliog yw'r rhywogaeth a gaiff ei gydnabod fel gwir gynhenid yr ardal ynghyd â rhywogaethau collddail, yn cynnwys bedwen, derwen, onnen, helygen yn ogystal â bytholwyrdd fel celyn, ywen, pinwydd a merywen.

CASTELL GWYDIR

Cafodd Castell Gwydir ei adeiladu yn wreiddiol yn y 14eg Ganrif ond dinistriwyd y castell yn ddiweddarach; cafodd ei ail adeiladu o gwmpas 1500. Tŷ Tuduraidd yw Castell Gwydir yn hytrach na chastell Cymreig nodweddiadol. Er hynny, mae gan graidd amddiffyn cadarn yr adeilad rhywbeth yn gyffredin gyda gorthwr Llywelyn Fawr yng Nghastell Dolwyddelan. Wedi dadfeiliad Abaty Maenan yn 1538, ychwanegwyd at Gastell Gwydir gyda cherrig. Mae'r twred sgwâr yng nghefn y Tŵr Solar yn cynnwys grisiau tro a ddaeth o'r Abaty ac mae nifer o gerrig cerfiedig coeth i'w gweld ar y safle.

Symud Ymlaen - LL24 0AL

Ar hyd y Ffordd: Wrth i chi yrru am gyfeiriad Betws y Coed, byddwch yn croesi afon dros Bont-y-Pair. Cafodd y bont ei hadeiladu yn y 15fed Ganrif gan wneud defnydd llawn o'r creigiau naturiol oedd ar gael.

BETWS-Y-COED

Mae Eglwys San Mihangel tu hwnt i gae gwyrdd y pentref, tu ôl i'r orsaf drên. Gallwch gerdded trwy'r orsaf dros y bont gerdded. Os hoffech chi fynd i mewn i'r eglwys, gofynnwch am y goriad o'r Ganolfan Gwybodaeth Twristiaid sydd ger cae'r pentref neu yn Amgueddfa'r Rheilffordd.

Eglwys San Mihangel. Mae adeilad yr eglwys yn deillio o'r 14eg ganrif ond mae'r ffont o'r 12fed ganrif. Mae arddelw anhygoel allan o garreg calch o Gruffydd ap Dafydd Goch - roedd Llywelyn Fawr yn hen hen daid iddo, sy'n cadw'r cysylltiad gyda Thywysogion Gwynedd. Mae'r arysgrif “HIA MAE GRUFYD AP DAVYD GOCH MONUS DEI MISEKE M….” yn cyfieithu i “Yma, gorweddai Gruffydd fab Dafydd Goch - Oen Dduw tosturia arnaf ”.

Dyma ddiwedd y daith.

Mae lleoliadau’r prif fannau o ddiddordeb i’w gweld isod. Defnyddiwch y botwm 'Satellite' i gael golwg ar y lleoliadau drwy edrych i lawr ar y llun (gwell chwyddo i mewn i ddechrau).

A - Betws-y-Coed
B - Abaty Maenan
C - Eglwys Sant Crwst
D - Eglwys y Santes Fair
E - Capel Ebeneser
F - Eglwys Llanrhychwyn
G - Castell Gwydir
H - Eglwys San Mihangel

Ewch i Googlemap ar gyfer cyfarwyddiadau o’r teithiau

Ewch i Googlemap ar gyfer cyfarwyddiadau o’r teithiau

Rhestr o Itemau - Teithiau Gyrru

Taith 1 - Betws-y-Coed i Abergwyngregyn

Ymwelwch â’r Ceiri hynafol canlynol - Castell Conwy a chartref Tywysogion Gwynedd yn Abergwyngregyn, y Ceiri gorau ym Mhrydain o bosib.
Manylion

Taith 2 - Betws-y-Coed, Llanrwst a Trefriw

Taith fer ond y daith fwyaf atgofus mae’n debyg i chi gerdded wrth i chi ddilyn camau Llywelyn Fawr. (Dach chi ar y dudalen hwn).

Taith 3 - Sir Fôn

Ymwelwch â Môn Mam Cymru (Sir Fôn) gyda’i heglwysi atgofus a Chastell Biwmares sy’n safle Treftadaeth y Byd.
Manylion

Taith 4 - Bangor, Caernarfon a Llanberis

O hanes naturiol y Rhaeadr Ewynnol i hanes o waith dyn yng Nghastell Caernarfon a Chadeirlan Bangor.
Manylion

Taith 5 - Beddgelert, Criccieth a Dolwyddelan

Cestyll lu, yn cynnwys hoff gastell Llywelyn Fawr yn Nolwyddelan.
Manylion

Taith 6 - Gogledd Dwyrain Cymru

Gadewch i hanes siarad â chi wrth i chi archwilio gorffennol milain Castell Rhuddlan.
Manylion

Gwybodaeth Cysylltu

Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod:

Ffôn: 01690 710601
E-bost:
info at princesofgwynedd dot com

www.princesofgwynedd.com

pen y dudalen pen y dudalen argraffu’r dudalen hon argraffu'r dudalen hon