Teithiau Gyrru
Taith 1 - Betws-y-Coed i Abergwyngregyn
Castell Deganwy
Castell Conwy
Eglwys Conwy
Eglwys Sant Bendigaid
Bwlch Sychnant
Rhaeadr Fawr
Bydd y daith yma'n eich arwain chi o Gastell Deganwy, lle bu sawl brwydr rhwng y Cymry a'r Saeson, i Gastell Conwy a gafodd ei adeiladu gan Edward I yn dilyn gorchfygiad Llywelyn ein Llyw Olaf. Byddwch yna'n teithio dros fwlch Sychnant sef hen ffordd yn cysylltu Conwy gydag Abergwyngregyn, er mwyn ymweld â safle'r llys a'r Castell yn Aber lle bu Tywysogion Gwynedd - o Llewelyn Fawr i'w ŵyr, Llewelyn ap Gruffydd (Llewelyn ein Llyw Olaf) yn byw. Ac yn olaf, bydd taith gerdded at olygfa ysblennydd Rhaeadr Fawr.
-
Rowen - Bwlch y Ddeufan
-
Castell Deganwy
-
Conwy
-
Castell Conwy
-
Eglwys Conwy
-
Cerflun o Llywelyn Fawr
-
-
Gyffin
-
Eglwys Sant Bendigaid
-
-
Sychnant
-
Abergwyngregyn
-
Traeth
-
Pen-y-Mwd, Castell a Thŷ Hir
-
Maes-y-Gaer
-
Hafod Garth Celyn a Mynyddoedd Bera
-
Rhaeadr Fawr
-
Man Cychwyn: Betws-y-coed LL24 0BN
Noder: Wrth i chi adael y B5106, mae'r ffordd yn dyfod yn ffordd UN TRAC am y gweundiroedd [Os ydych yn dymuno osgoi Rowen, arhoswch ar y B5106 sy'n eich arwain chi at Gonwy.]
Ar hyd y ffordd: Ychydig filltiroedd tu allan i Fetws-y-coed, byddwch yn gyrru heibio Cwmlannerch. Distain Llewelyn Fawr, gwobrwywyd Ednyfed Fychan c. 1215-1246, am ei wasanaethau gwleidyddol a milwrol i Llywelyn Fawr drwy gonsesiwn y dylent ddal ar eu tiroedd yn rhydd o bob dyled a gwasanaeth oni bai am wasanaethau milwrol yn ystod rhyfel (e.e. doedd dim rhaid iddynt dalu treth!) Darganfuwyd disgynyddion Ednyfed ynghyd eraill yng Nghwmlannerch ond fe aberthodd lawer ohonynt eu tir i Frenin Lloegr yn y 14 eg Ganrif oherwydd eu atgasrwydd tuag ato.
ROWEN - BWLCH Y DDEUFAN
Yn wreiddiol ffurfiwyd Bwlch y Ddeufan gan y Rhufeiniaid ond cafodd ei ddefnyddio i fyny at yr 18fed Ganrif gan borthmyn i fynd o Sir Fôn i Lundain. Roedd y daith yn croesi'r Afon Conwy yn Nhal-y-cafn ac yn pasio drwy Rowen ac yn dilyn ffordd Bwlch-y-Ddeufan, lle'r oedd y man uchaf wedi ei farcio gan ddwy garreg ar i fyny. Mae'r llwybr yn arwain yn uniongyrchol i Abergwyngregyn, safle llys Llywelyn Fawr.
O'r maes parcio, dilynwch y llwybr ar droed i astudio'r cerrig ar i fyny sy'n arwydd o'r bwlch hynafol a mwynhewch yr olygfa. Byddwch hefyd yn cerdded heibio Carn ac mae cylch o gerrig yma hefyd (cymerwch olwg ar fap Ordnans i ddarganfod y rhain).
Symud Ymlaen: Eto mae peth o'r ffordd yn UN TRAC SENGL ac yn GUL MEWN RHANNAU ac yn gallu bod yn ARW. [Os ydych yn dymuno osgoi'r ffordd arw yma, yna gyrrwch yn syth ymlaen ac fe ddowch allan ger dafarn Y Bedol lle mae angen i chi droi i'r chwith.]
Ar hyd y ffordd: Yn y gorffennol roedd magu gwartheg a geifr yn fwy poblogaidd a chyn i'r Abatai Sistersaidd gyrraedd yn y 12fed a'r 13eg Ganrif, ychydig iawn o dystiolaeth oedd bod defaid yn bwysig yn economi Cymru. Gyda'r Deddfau Cau Tiroedd yn niwedd y 18 fed Ganrif, dafad oedd prif anifail y wlad. Yn y cyfnodau cynharaf byddai gan ffermwyr ddau gartref: yr hendre yn y gaeaf yn y tiroedd isel ac ym mis Mai byddai'r teulu a'r anifeiliaid yn symud i'r hafod yn y mynyddoedd.
Symud Ymlaen: Wedi i chi barcio ar Faes-y-Castell, mae man gwyrdd o'ch blaen - parciwch yma yn rhywle. Mae arwydd ar gyfer llwybr cerdded rhwng dau dŷ ar ochr arall y man gwyrdd. Gall y llwybrau i'r Castell fod yn fwdlyd. LL30 1NG
CASTELL DEGANWY
“… symudodd Edward i'r gorllewin ar hyd yr arfordir at adfeilion Castell Deganwy, mewn dyddiau gwell wedi eu codi gan Llywelyn.” - o 'The Reckoning'
“Roedd Castell Deganwy yn fantais anhraethol i ymosodwyr ar Ogledd Cymru o Loegr. Wedi ei leoli ar yr arfordir, roedd yn agored i dderbyn cyflenwadau parhaus; yn un o brif fynediadau i Eryri, dros aber Conwy, roedd gwarchodlu'r castell yn gallu rhwystro'r lluoedd Cymreig rhag symud, ac roedd cryfder y lle, mewn lleoliad a strwythur yn encil diogel i'r Saeson pe bai trychineb. Ond nid oedd cryfder y caer yn ddigon i rwystro Llywelyn, tywysog Cymru rhag ei ddinistrio'n gyfan gwbl yn 1260, ac mae'n ymddangos na chafodd ei ail adeiladu wedi hynny.” [Geiriadur Topograffaidd Cymru gan Lewis 1845]
Mae adeilad wedi bod ar y safle ers y Chweched Ganrif. Yn 1213 fe ail adeiladodd Llywelyn Fawr gastell ar y safle a charcharu un o'i feibion yma. Wedi marwolaeth Llywelyn yn 1240, cafodd y castell ei ddymchwel gan ei feibion wrth iddynt ddisgwyl i'r Saeson gyrraedd. Cafodd y castell ei ail adeiladu unwaith eto gan Harri'r III. [Geiriadur Topograffaidd Cymru gan Lewis 1845]
Dinistriodd Llywelyn ein Llyw Olaf y castell yn 1263. Cred rhai bod rhannau o'r garreg wedi ei ddefnyddio i adeiladu Castell Conwy. Mae'r adfeilion sy'n weladwy heddiw yn bennaf o gastell Harri'r III. Mae llwyfandiroedd a bryniau Deganwy yn atmosfferig, a'r golygfeydd o Aberconwy ac Eryri yn hynod. Er mwyn cerdded at y llwyfandir ewch i gyfeiriad y golofn garreg rhwng dau fryn lle mae llwybr cerdded sy'n ymdroelli o gwmpas bryn mwy ac sy'n eich arwain i'r top - eto gall y llwybr yma fod yn eithaf mwdlyd. Wedi hynny beth am gerdded ar y bryn tuag at ochr y môr er mwyn gweld gweddillion waliau'r castell.
Symud Ymlaen: Yng Nghonwy, y lle rhwydda i barcio yw'r maes parcio mawr ar Ffordd Llanrwst. O Ddeganwy, ewch dros y bont sy'n ymestyn dros yr afon a gyrru drwy fwlch yn wal y castell. LL32 8LD
Ar hyd y Ffordd: Wrth i chi groesi'r afon yng Nghonwy, byddwch yn croesi pont. Mae tair pont yma yn rhedeg ochr yn ochr. Adeiladodd Thomas Telford y bont yn y canol a gafodd ei chwblhau yn 1826. Pont grogi cadwyni yw hon sydd wedi ei angori gan ddisgyrchiant. Mae'r bwrdd a'r gadwyn yn haearn bwrw. Cafodd Pont Diwbaidd Conwy ar yr ochr bellaf ei hadeiladu gan Robert Stephenson i gario rheilffordd dros yr aber - cafodd ei hagor yn swyddogol yn 1849. Cafodd y bont ffordd ei chwblhau ym 1958.
CONWY - CASTELL CONWY
“Roedd Brenin Lloegr eisiau adeiladu castell mawreddog ar lan gorllewinol Afon Conwy … ond roedd y safle ganddo dan sylw gydag adeilad arno'n barod – sef Abaty Aberconwy. Felly, penderfynodd symud yr holl abaty - saith milltir i'r de i Faenan. Cafodd y gorchymyn adeiladu cyntaf ei godi wedi Mawrth [1283] …sicrhaodd ganiatâd gan y cadfridog Sistersaidd. Cafodd yr abaty ei oresgyn gan y Saeson …” - o 'The Reckoning'
“Mae'r castell gyda'i harddwch a'i odidowgrwydd dihafal yn llunio darlun bonheddig iawn…”…[Geiriadur Topograffaidd Cymru gan Lewis 1845]
Adeiladwyd Castell Conwy rhwng 1283 a 1287 gan Edward I fel un o brif gaerau yn ei ‘gylch haearn' o gastelli yn ei wrthryfel Cymreig. Mae waliau llenfur a'r wyth tŵr crwn sy'n esgyn i fyny yn rhoi presenoldeb brawychus i'r castell. Cododd Edward ragor o waliau gwrthsefyll i amddiffyn y dref; waliau yn 12 troedfedd o drwch ac yn gylchedd o oddeutu milltir a chwarter o hyd. Mae modd cerdded waliau'r dref sydd gyda 21 tŵr a 3 porth gyda dau dŵr yr un. Adnabyddir Tŵr 16 fel Tŵr Llywelyn; yn wreiddiol roedd adeilad cyfagos sef Neuadd Llywelyn oedd wedi ei adeiladu yn Wal y Dref ond cafodd ei ddymchwel yn oddeutu 1316 a defnyddiwyd y garreg i adeiladu Castell Caernarfon.
Ar gyfer Eglwys Conwy, anelwch am y ffordd ger y Lleng Prydeinig ac mae mynedfa Eglwys y Santes Fair ychydig ymlaen - mae'r allwedd yn cael ei gadw yn y Ficerdy, sef y tŷ sydd o flaen yr eglwys. Wedi hynny, cerddwch i fyny at sgwâr y dref i weld cerflun Llewelyn Fawr ar blinth.
EGLWYS CONWY
Mae eglwys Abaty Aberconwy bellach yn eglwys blwyf; Eglwys y Santes Fair ac Eglwys yr Holl Saint. Rhoddodd Llywelyn Fawr dir i Abaty Aberconwy yn 1198 yn fuan wedi iddo ddod yn arweinydd ar Wynedd ac roedd yr Abaty yn storfa ar gyfer cofnodion cenedlaethol Cymru ac yn feddrod i dywysogion cynhenid. Bu Llywelyn Fawr farw yn yr Abaty yn 1240 a chafodd ei gladdu yno. Cafodd ei feibion - Dafydd ap Llywelyn a Gruffydd ap Llywelyn eu claddu yn ddiweddarach yno hefyd. Yn 1283 gorfododd Edward I i'r abaty gael ei symud i Faenan. Mae taflen yn yr eglwys gyda gwybodaeth hanesyddol. Os yw'r eglwys dan glo, mae'r goriad ar gael o'r Ficerdy.
Os oes amser gennych, beth am ymweld â:
-
Eglwys Sant Bendigaid, Ffordd Henryd, Gyffin - LL32 8HW - Cafodd Eglwys Sant Bendigaid ei adeiladu gan fynachod Aberconwy fel eglwys i'r pentrefwyr gydag Eglwys y Santes Fair ac Eglwys yr Holl Saint ar gyfer y mynachod eu hunain. Mae gan Sant Bendigaid faen coffa yn y porth gyda'r geiriau canlynol arno: HIC IA[CE]T LYWELY [A]P IOR[…] sy'n cyfieithu i ‘Yma gorweddai Llywelyn ap Iorwerth'. Gwyddwn fod Llywelyn Fawr wedi ei gladdu yn wreiddiol yn Abaty Aberconwy ond sut daeth y garreg goffa i Gyffin?
I gyrraedd yr eglwys o faes parcio Ffordd Llanrwst, cerddwch i lawr y ffordd o gyfeiriad y Castell, heibio'r ysgol, nes i chi gyrraedd tro siarp yn y ffordd. Mae Ffordd Henryd yn syth o'ch blaen. (os ydych yn dymuno mynd i mewn i'r Eglwys, bydd angen i chi wneud trefniadau o flaen llaw gyda'r un sy'n gofalu am oriad yr eglwys.)
Symud Ymlaen
BWLCH SYCHNANT
“llwybr alpaidd o sawl dimensiwn bradwrus ac mor gul fel na all dau geffyl cerdded ochr yn ochr, mor agos i'r clogwyn fel bod Siwan yn clywed y don yn chwalu ar y creigiau oddi tanodd. Bwlch Penmaenmawr.” - o 'Here Be Dragons'
Ar gyfer pobl oedd yn dymuno mynd o Gonwy i Benmaenmawr a thu hwnt, roedd ffordd ar hyd y tywod, ond pan fyddai'r llanw i mewn byddai'r ffordd yma o gwmpas Penmaenbach yn beryglus, a dyma'r rheswm dros ddatblygu Bwlch Sychnant. Roedd y daith dros y Sychnant yn hirach ond roedd modd ei wneud hyd yn oed mewn tywydd garw. Dyma'r daith fyddai Llywelyn Fawr wedi ei gymryd i gyrraedd ei lys yn Abergwyngregyn. Mae meysydd parcio ar hyd y ffordd lle mae modd i chi gymryd seibiant er mwyn mwynhau'r olygfa.
Ystyr Sychnant yw nant wedi sychu. Oddi ar Ffordd Bwlch Sychnant, wedi i chi ddringo allt serth, mae troad i'r dde sy'n arwain lawr i Ddwygyfylchi a heibio eglwys - dyma'r hen ffordd. Er hynny, os arhoswch chi ar Ffordd Bwlch Sychnant, byddwch yn dod i bentref o'r enw Capeulo a gafodd ei sefydlu yng nghyfnod cynnar y canol oesoedd.
Symud Ymlaen: I gyrraedd Abergwyngregyn, byddwch angen ymuno â'r A55 a chadwch lygad am arwydd i'r pentref. Wrth i chi droi oddi ar yr A55, trowch yn sydyn i'r chwith lle mae arwydd ar gyfer maes parcio am ddim. O fan hyn, mae modd i chi un ai gerdded i'r llefydd sydd wedi eu henwi neu ewch ymlaen i'r nifer o feysydd parcio eraill sydd yn yr ardal. LL33 0LD
ABERGWYNGREGYN
“Roedd Elen wrth ei bodd yn Aber. Hoffai gerdded ar y traeth a syllu ar y Fenai at Lanfaes. Roedd wrth ei bodd yn dilyn yr afon oedd yn troelli ac yn llifo drwy'r cwm coediog, ac roedd yn bleser ganddi wylio'r fflach o arian ymysg y coed o'i blaen, wrth iddi ragweld ei golwg cyntaf o'r rhaeadr wyllt oedd yn tasgu dros glogwyn tryloyw mewn rhuban cul o ddŵr gwyn. Roedd yn ei helfen yn gorwedd gyda'r nos yn yr un siambr lle bu Siwan yn cysgu gyda Llywelyn. Aber oedd calon teyrnas ei gŵr; yma y teimlodd y gorffennol yn tynnu fwyaf, a ni ddychwelodd yn ôl i Abergwyngregyn - ceg gerddorol Afon y Cregyn Gwyn - heb iddi deimlo fel ei bod hi'n dod adref.” - o 'The Reckoning'
“Roedd y man hynafol yma yn gartref i dywysogion brodorol Gogledd Cymru ,ac yma, ger y pentref, fe gododd Llywelyn Fawr gastell cryf ar fryn artiffisial y Mwd er mwyn amddiffyn y bwlch.......dyma brif gartref Llywelyn ap Gruffydd, yr olaf o Dywysogion Cymru.” [Geiriadur Topograffaidd Cymru gan Lewis 1845]
Mae nifer o lefydd i ymweld â hwy yn Abergwyngregyn ond i gychwyn byddai'n syniad deall pam gafodd y man yma ei ddewis. Dilynwch y ffordd sy'n mynd o dan yr A55 sy'n pwyntio'n syth tuag at y môr - mae maes parcio yn y pen. Wrth i chi edrych dros y Fenai byddwch yn gweld Biwmares o'ch blaen ac mae glan o fwd a thywod rhyngddynt. Enw'r lan yma o dywod yw Traeth Lafan a dyma le roeddent yn croesi drosodd i Ynys Môn yn y canol oesoedd ond bellach nid oes modd gwneud hynny.
Cerddwch yn ôl i'r pentref i ddarganfod lle mae'r eglwys - sydd gyferbyn â'r capel, tu ôl i'r tai, ac mae twmpath o ddaear gyda thop fflat a elwir yn Pen-y-Mwd. Dyma safle Castell Abergwyngregyn oedd yn fwnt gyda chlawdd, ac yn gastell o waith maen garw. Mae'r twmpath mawr gyda thop fflat wedi ei godi o glogfaeni o'r afon.
Yn y cae ar waelod Pen-y-Mwd mae archeolegwyr wedi darganfod safle llys Llywelyn Fawr yn Aber gydag adeiladau lle'r oedd ei gartref ag adeiladau gweinyddu. Adeiladodd Llywelyn Fawr gartref brenhinol a adnabuwyd fel Tŷ Hir ac Abergwyngregyn oedd sedd y llys brenhinol a fu'n llywyddu ar ran Llywelyn Fawr.
Mae cais arall wedi ei wneud ar gyfer safle llys Llywelyn Fawr gan Pen-y-bryn sy'n dŷ ar y bryn tu ôl i Pen-y-Mwd. Mae archeolegwyr yn credu y gall Pen-y-Bryn fod y safle ar gyfer fferm a chartref tiriogaethau Aber ond nid oes unrhyw brawf cadarn o hynny.
Yn dilyn y ffordd drwy'r pentref, ar y chwith mae bryn coediog ac ar y top mae Maes y Gaer, sef lloc amddiffyn cyn cyfnod y Rhufeiniaid. Er ei bod hi'n anodd cadarnhau hyn dywedir mai ar fryn Wern Grogiedig y crogwyd Gwilym Brewys am ei ‘berthynas' gyda Siwan, gwraig Llywelyn Fawr.
Agwedd ddiddorol arall yw Garth Celyn. Aber Garth Celyn yw'r hen enw ar gyfer Abergwyngregyn ond ni chaiff ei ddefnyddio rhagor ond mae lle arall o'r enw Hafod Garth Celyn ymhellach i mewn i'r tir. Er mwyn cyrraedd Hafod Garth Celyn , dilynwch y ffordd trwy'r pentref ac ar y fforch, trowch i'r chwith dros y bont a chadw i'r chwith - mae maes parcio ar ddiwedd y ffordd. Mae safle Hafod Garth Celyn yn guddiedig yn y bryniau ac yn ôl y sôn fe ddefnyddiodd Tywysogion Gwynedd y safle fel lloches oddi wrth elynion.
Os oes amser gennych, beth am ymweld â'r:
-
Rhaeadr Fawr - Gweler taith gerdded 3
“Roedd hi'n werth cerdded at y Rhaeadr Fawr. Nid oedd ganddi'r run pŵer gwyllt â'r Rhaeadr Ewynnol, ond roedd yn wych yr un fath gyda'i ruban cul o ddŵr gwyn.” - o 'Here Be Dragons'
I gwblhau'r daith, dychwelwch i'r man cychwyn ym Metws-y-coed. LL24 0BN
Ar hyd y Ffordd: Wrth i chi yrru trwy'r mynyddoedd bydd chadwyn o fynyddoedd Eryri ar y dde a mynyddoedd Y Carneddau (yn cynnwys Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd) ar y chwith. Gwyliwch allan am Eifr Eryri. Mae Geifr Eryri yn eifr gwyllt sydd wedi crwydro'r ardal ers bron i 10,000 o flynyddoedd. Defnyddiwyd geifr am eu cig, gwallt, cyrn, carnau a'u llaeth.
Mae lleoliadau’r prif fannau o ddiddordeb i’w gweld isod. Defnyddiwch y botwm 'Satellite' i gael golwg ar y lleoliadau drwy edrych i lawr ar y llun (gwell chwyddo i mewn i ddechrau).
A - Betws-y-Coed
B - Rowen
C - Castell Deganwy
D - Castell Conwy
E - Eglwys Conwy
F - Eglwys Sant Bendigaid
G - Bwlch Sychnant
H - Traeth
I - Abergwyngregyn
J - Maes-y-Gaer
K - Hafod Garth Celyn
L - Rhaeadr Fawr
Ewch i Googlemap ar gyfer cyfarwyddiadau o’r teithiau
Rhestr o Itemau - Teithiau Gyrru
Taith 1 - Betws-y-Coed i Abergwyngregyn
Ymwelwch â’r Ceiri hynafol canlynol - Castell Conwy a chartref Tywysogion Gwynedd yn Abergwyngregyn, y Ceiri gorau ym Mhrydain o bosib. (Dach chi ar y dudalen hwn).
Taith 2 - Betws-y-Coed, Llanrwst a Trefriw
Taith fer ond y daith fwyaf atgofus mae’n debyg i chi gerdded wrth i chi ddilyn camau Llywelyn Fawr.
Manylion
Taith 3 - Sir Fôn
Ymwelwch â Môn Mam Cymru (Sir Fôn) gyda’i heglwysi atgofus a Chastell Biwmares sy’n safle Treftadaeth y Byd.
Manylion
Taith 4 - Bangor, Caernarfon a Llanberis
O hanes naturiol y Rhaeadr Ewynnol i hanes o waith dyn yng Nghastell Caernarfon a Chadeirlan Bangor.
Manylion
Taith 5 - Beddgelert, Criccieth a Dolwyddelan
Cestyll lu, yn cynnwys hoff gastell Llywelyn Fawr yn Nolwyddelan.
Manylion
Taith 6 - Gogledd Dwyrain Cymru
Gadewch i hanes siarad â chi wrth i chi archwilio gorffennol milain Castell Rhuddlan.
Manylion
www.princesofgwynedd.com
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwestai Betws-y-Coed a'r Cylch