tywysogion gwynedd

Teithiau Gyrru

Ar gyfer y teithiau gyrru, y prif fannau o ddiddordeb yw'r mannau mewn ysgrifen drom ac mae'r mannau mewn ysgrifen italig ar gyfer y rhai dewr yn ein mysg - weithiau mae'n anodd cyrraedd rhai o'r mannau yma ac ar adegau bydd angen llawer iawn o ddychymyg arnoch!

Mae llawer o'r safleoedd ar y ffordd ar y Gofrestr Henebion. Dangoswch barch drwy beidio â dringo arnynt fel bod modd i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau hefyd.

Am resymau diogelwch, mae'n debyg bydd yr eglwysi wedi eu cloi. Caiff ei nodi, yn y testun canlynol, lle mae modd casglu'r goriad, os yw perchennog y goriad yn fodlon dosbarthu'r goriad yn y lle cyntaf. Fel arall, efallai fod gofyn i chi ffonio o flaen llaw os ydych yn dymuno mynd i mewn i'r eglwysi.

Cofiwch hefyd fod rhai o'r safleoedd eraill wedi cau ar rai amseroedd; yn enwedig rhai o'r cestyll yn ystod tymor y gaeaf felly ymholwch o flaen llaw.

Taith 1 - Betws-y-Coed i Abergwyngregyn

Ymwelwch â’r Ceiri hynafol canlynol - Castell Conwy a chartref Tywysogion Gwynedd yn Abergwyngregyn, y Ceiri gorau ym Mhrydain o bosib.
Manylion

Taith 2 - Betws-y-Coed, Llanrwst a Trefriw

Taith fer ond y daith fwyaf atgofus mae’n debyg i chi gerdded wrth i chi ddilyn camau Llywelyn Fawr.
Manylion

Taith 3 - Sir Fôn

Ymwelwch â Môn Mam Cymru (Sir Fôn) gyda’i heglwysi atgofus a Chastell Biwmares sy’n safle Treftadaeth y Byd.
Manylion

Taith 4 - Bangor, Caernarfon a Llanberis

O hanes naturiol y Rhaeadr Ewynnol i hanes o waith dyn yng Nghastell Caernarfon a Chadeirlan Bangor.
Manylion

Taith 5 - Beddgelert, Criccieth a Dolwyddelan

Cestyll lu, yn cynnwys hoff gastell Llywelyn Fawr yn Nolwyddelan.
Manylion

Taith 6 - Gogledd Dwyrain Cymru

Gadewch i hanes siarad â chi wrth i chi archwilio gorffennol milain Castell Rhuddlan.
Manylion

Gwybodaeth Cysylltu

Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod:

Ffôn: 01690 710601
E-bost:
info at princesofgwynedd dot com

www.princesofgwynedd.com

pen y dudalen pen y dudalen argraffu’r dudalen hon argraffu'r dudalen hon