Cymeriadau
Yr Olynwyr
Mab Dafydd Goch
Merch o'r enw Gwenllïan oedd unig blentyn Llywelyn ein Llyw Olaf. Byddai Gwenllïan wedi bod yn fygythiad i Edward I ac er nad oedd ganddi'r hawl i reoli ei hun (ni chydnabuwyd merched fel arweinwyr) byddai wedi gallu rhoi genedigaeth i fab a byddai hwnnw wedi gallu hawlio ‘coron' Cymru. Cafodd Gwenllïan, a oedd ychydig fisoedd oed, ei gyrru i leiandy er mwyn sicrhau na fyddai byth yn cael plentyn a bu'n garcharor yno tan ei marwolaeth 54 mlynedd yn ddiweddarach.
Wedi marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf, fe gymerodd ei frawd, Dafydd ap Gruffydd, yr awenau drosodd, am gyfnod byr, fel Tywysog Cymru ond fe gafodd ei ddal gan Edward I yn 1283 a chafodd ei grogi, ei dynnu a'i chwarteru am fradychu.
Gadawodd Dafydd ap Gruffydd ddau fab, Llywelyn ap Dafydd ac Owain ap Dafydd, ag un ferch, Gwladys. Carcharwyd Llywelyn ac Owain yng Nghastell Bryste a bu Llywelyn farw mewn amgylchiadau dirgel yn oddeutu 1287; fe oroesodd Owain tan oddeutu 1325 a byddai wedi bod yn ei chwedegau. Cafodd Gwladys ei gyrru i leiandy yn swydd Lincoln yn oddeutu 1336.
Roedd gan Dafydd ap Gruffydd nifer o blant anghyfreithlon hefyd gyda Dafydd Goch yn goroesi ond ni ŵyr neb beth a ddigwyddodd i'w saith merch anghyfreithlon.
Gadawodd Margaret ferch Gruffydd ddau fab a fu farw, yn rhyfedd iawn, pan oedd dau warchodwr Saesneg yn eu gwylio.
Tomos ap Rhodri oedd yr unig fab a wyddwn amdano gan Rhodri ap Gruffydd, sef brawd ieuengaf Llywelyn ein Llyw Olaf a Dafydd ap Gruffydd. Daeth Tomos yn de jure Tywysog Gwynedd yn dilyn marwolaeth ei gefnder, Owain ap Dafydd yn oddeutu 1325. Er hynny, nid oes unrhyw dystiolaeth ei fod wedi ceisio hawlio'r teitl.
Roedd Owain Lawgoch yn fab i Thomas ap Rhodri. Ni ymgeisiodd am orsedd Gwynedd a thywysogaeth Cymru ond fe gynlluniodd i feddiannu Cymru ar sawl achlysur er mwyn hawlio ei orsedd ond aeth y cyfan yn ofer oherwydd nifer o resymau. Yn 1378 cafodd ei lofruddio yn dilyn gorchmynion y Llywodraeth Saesnig.
Ni chafodd y teitl ‘Tywysog Gwynedd' ei hawlio eto tan y 17eg ganrif gan Syr John Wynn (gweler Castell Gwydir) a ysgrifennodd lyfr o'r enw Hanes Teulu Gwydir lle roedd yn datgan ei fod yn ddisgynnydd i Tomos ap Rhodri. Wedi achos llys, cafodd ei gydnabod fel aer i Lys Gwynedd ac felly yn de jure Tywysog Gwynedd. Er hynny, gallai etifedd Dafydd Goch wneud hawliau tebyg hefyd.
Rhestr o Itemau - Cymeriadau
Llywelyn ap Iorwerth
Brwydrodd i uno Cymru a daeth yn adnabyddus fel Llywelyn Fawr.
Manylion
Siwan
Gwraig Llywelyn ap Iorwerth a chanolwr rhwng y Cymry a’i thad John, Brenin Lloegr.
Manylion
Dafydd ap Llywelyn
Y gŵr cyntaf i hawlio’r teitl ‘Tywysog Cymru’.
Manylion
Gruffydd ap Llywelyn
Y mab hynaf a anwybyddwyd a bu diwedd trasig i’w fywyd o ganlyniad i’w ddicter.
Manylion
Llywelyn ap Gruffydd
Tywysog Cyntaf Cymru a gafodd ei adnabod gan y Saeson fel Tywysog Cymru, yn enwog ymysg y Cymry fel ‘Llywelyn ein Llyw Olaf’.
Manylion
Yr Olynwyr
Beth a ddigwyddodd i olynwyr i deitl Tywysog Gwynedd a Thywysog Cymru? (Dach chi ar y dudalen hwn).
www.princesofgwynedd.com
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwestai Betws-y-Coed a'r Cylch