Cymeriadau
Llywelyn ap Gruffydd
Llewelyn ap Gruffydd
Baner Llewelyn ap Gruffydd
Hefyd yn adnabyddus fel : Llywelyn ein Llyw Olaf, Llywelyn II, Tywysog Cymru.
-
Ganwyd yn oddeutu 1228
-
Bu farw yn 1282
-
Yn briod gyda: Eleanor de Montfort
-
Plant: Gwenllïan (1282-1337). Mae'n bosibl fod ganddo blentyn anghyfreithlon o'r enw Catherine (cafodd ei hadnabod fel Eleanor hefyd) ond ychydig a wyddwn amdani hi.
Llywelyn oedd ail fab cyfreithlon Gruffydd a'i wraig, Senena. Yn dilyn marwolaeth ei dad fe ymunodd Llywelyn gyda'i ewythr, Dafydd, ac fe etifeddodd ei holl eiddo gan nad oedd meibion ganddo. Dyma Llywelyn yn cynorthwyo gyda'r weithred o ail-uno Gogledd Cymru. Yn 1258, fe drosglwyddodd y tywysogion Cymreig eraill eu gwrogaeth gan Frenin Lloegr i Llywelyn ac yn yr un flwyddyn dyma Llywelyn yn datgan ei hun fel Tywysog Cymru gyda Simon de Montfort yn cydnabod hynny ar ran Coron Lloegr yn 1265. Dyma Harri'r III yn cydnabod y teitl hynny ar gyfer Llywelyn a'i olynwyr yn 1267 yng Nghyfamod Caerwrangon.
Gyda'r dyfodiad o Frenin newydd i Loegr, Edward I, fe ddirywiodd y cysylltiadau gyda Llywelyn a oedd yn gwrthod talu gwrogaeth a'r taliadau oedd yn rhan o Gyfamod Caerwrangon. Yn 1277 gorfodwyd Llywelyn i ymostwng i'r Brenin a thynnwyd ei uwcharglwyddiaeth oddi arno.
Yn 1282, fe ymosododd Dafydd ap Gruffydd, brawd Llywelyn, ar Gastell Penarlâg gyda Llywelyn yn ochri gyda'i frawd yn erbyn y Saeson. Dyma Edward I yn meddiannu Cymru a lladdwyd Llywelyn yn ystod brwydr ym mis Rhagfyr 1282 a ddaeth â diwedd i lywodraethu'r tywysogion cynhenid Cymreig.
Rhestr o Itemau - Cymeriadau
Llywelyn ap Iorwerth
Brwydrodd i uno Cymru a daeth yn adnabyddus fel Llywelyn Fawr.
Manylion
Siwan
Gwraig Llywelyn ap Iorwerth a chanolwr rhwng y Cymry a’i thad John, Brenin Lloegr.
Manylion
Dafydd ap Llywelyn
Y gŵr cyntaf i hawlio’r teitl ‘Tywysog Cymru’.
Manylion
Gruffydd ap Llywelyn
Y mab hynaf a anwybyddwyd a bu diwedd trasig i’w fywyd o ganlyniad i’w ddicter.
Manylion
Llywelyn ap Gruffydd
Tywysog Cyntaf Cymru a gafodd ei adnabod gan y Saeson fel Tywysog Cymru, yn enwog ymysg y Cymry fel ‘Llywelyn ein Llyw Olaf’. (Dach chi ar y dudalen hwn).
Yr Olynwyr
Beth a ddigwyddodd i olynwyr i deitl Tywysog Gwynedd a Thywysog Cymru?
Manylion
www.princesofgwynedd.com
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwestai Betws-y-Coed a'r Cylch