tywysogion gwynedd

Cymeriadau

Gruffydd ap Llywelyn

Castell Deganwy

Castell Deganwy

  • Ganwyd yn oddeutu 1196
  • Bu farw yn 1244
  • Yn briod gyda: Senena
  • Pedwar Mab: Owain Goch (c1219-c1282), Llywelyn (1228-1282), Dafydd (1238-1283) a Rhodri (d.1315) gyda'r posibilrwydd o rai merched hefyd.

Gruffydd oedd mab anghyfreithiol cyntaf Llywelyn Fawr, Tangwystl oedd ei fam. Rhoddwyd Gruffydd, pan yn blentyn, fel gwystl i'r Saeson ynghyd â meibion nifer o dywysogion Cymreig eraill gyda'r gred na fyddai'r Brenin John yn achosi niwed i'r plant. Yn 1212, crogwyd y plant i gyd ar wahân i Gruffydd ac yn 1215 fe gafodd ei ryddhau o'r diwedd a dyma'n dychwelyd yn ôl i Gymru.

Roedd Gruffydd wedi digio'n arw mai ei frawd Dafydd oedd wedi etifeddu teyrnas ei dad a bu'n rhaid i Llywelyn Fawr garcharu Gruffydd am 6 mlynedd yng Nghastell Deganwy er mwyn arbed trafferth rhwng y ddau fab.

Yn 1240 fe wrthododd Gruffydd ag ymostwng i'w frawd fel Tywysog Gwynedd ac fe'i carcharwyd am 11 mis arall yng Nghastell Cricieth. Wedi hynny, cafodd Gruffydd ei drosglwyddo i Frenin Lloegr, Harri'r III. Cafodd Gruffydd ei garcharu yn Nhŵr Llundain am 2 flynedd a ½ cyn iddo geisio dianc; fe dorrodd y ‘rhaff' gyda Gruffydd yn disgyn i'w farwolaeth.

Cafodd corff Gruffydd ei ddychwelyd i Gymru ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach a'i gladdu yn Abaty Aberconwy.

Rhestr o Itemau - Cymeriadau

Llywelyn ap Iorwerth

Brwydrodd i uno Cymru a daeth yn adnabyddus fel Llywelyn Fawr.
Manylion

Siwan

Gwraig Llywelyn ap Iorwerth a chanolwr rhwng y Cymry a’i thad John, Brenin Lloegr.
Manylion

Dafydd ap Llywelyn

Y gŵr cyntaf i hawlio’r teitl ‘Tywysog Cymru’.
Manylion

Gruffydd ap Llywelyn

Y mab hynaf a anwybyddwyd a bu diwedd trasig i’w fywyd o ganlyniad i’w ddicter. (Dach chi ar y dudalen hwn).

Llywelyn ap Gruffydd

Tywysog Cyntaf Cymru a gafodd ei adnabod gan y Saeson fel Tywysog Cymru, yn enwog ymysg y Cymry fel ‘Llywelyn ein Llyw Olaf’.
Manylion

Yr Olynwyr

Beth a ddigwyddodd i olynwyr i deitl Tywysog Gwynedd a Thywysog Cymru?
Manylion

Gwybodaeth Cysylltu

Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod:

Ffôn: 01690 710601
E-bost:
info at princesofgwynedd dot com

www.princesofgwynedd.com

pen y dudalen pen y dudalen argraffu’r dudalen hon argraffu'r dudalen hon