tywysogion gwynedd

Cymeriadau

Dafydd ap Llywelyn

Castell Cricieth

Castell Cricieth

Hefyd yn adnabyddus fel: Tywysog Cymru.

  • Ganwyd yn oddeutu 1208
  • Bu farw yn 1246
  • Yn briod gyda: Isabella de Braose
  • Plant: Dim hyd y gwyddwn ni.

Dafydd oedd unig fab cyfreithlon Llywelyn Fawr a'i wraig Siwan.

Cyhoeddodd Llywelyn Fawr mai Dafydd yn unig fyddai'n etifeddu ac yn 1238 fe dynnodd tywysogion eraill Cymru lw o deyrngarwch iddo ond gwrthododd ei frawd Gruffydd rhag gwneud hynny. Yn 1240 fe garcharodd Dafydd ei frawd, ynghyd â'i fab Owain yng Nghastell Cricieth. Yn 1241 fe ymosododd Harri'r III o Loegr ar Gymru; roedd yno fwy o Saeson nag o Gymry ac roedd gan y Saeson fwy o adnoddau felly gorfodwyd Dafydd i ymostwng i Frenin Lloegr. Fel rhan o'r trefniant, cafodd Dafydd ei orfodi i drosglwyddo Gruffydd ag Owain i Harri'r III, a charcharwyd Gruffydd fel gwystl gwleidyddol - pe bai Gruffydd yn cael ei ryddhau byddai'n herio Dafydd ar unwaith ar gyfer rheoli Cymru unwaith eto.

Yn 1244, bu farw Gruffydd wrth iddo geisio dianc ac fe gychwynnodd Dafydd ail ennill taleithiau oedd wedi ei golli yn flaenorol. Er hynny, yn 1246 bu Dafydd farw yn ei gartref yn Aber gan adael Llywelyn, ei nai, i gario ‘mlaen gyda'r gwaith. Cafodd ei gladdu yn Abaty Aberconwy.

Rhestr o Itemau - Cymeriadau

Llywelyn ap Iorwerth

Brwydrodd i uno Cymru a daeth yn adnabyddus fel Llywelyn Fawr.
Manylion

Siwan

Gwraig Llywelyn ap Iorwerth a chanolwr rhwng y Cymry a’i thad John, Brenin Lloegr.
Manylion

Dafydd ap Llywelyn

Y gŵr cyntaf i hawlio’r teitl ‘Tywysog Cymru’. (Dach chi ar y dudalen hwn).

Gruffydd ap Llywelyn

Y mab hynaf a anwybyddwyd a bu diwedd trasig i’w fywyd o ganlyniad i’w ddicter.
Manylion

Llywelyn ap Gruffydd

Tywysog Cyntaf Cymru a gafodd ei adnabod gan y Saeson fel Tywysog Cymru, yn enwog ymysg y Cymry fel ‘Llywelyn ein Llyw Olaf’.
Manylion

Yr Olynwyr

Beth a ddigwyddodd i olynwyr i deitl Tywysog Gwynedd a Thywysog Cymru?
Manylion

Gwybodaeth Cysylltu

Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod:

Ffôn: 01690 710601
E-bost:
info at princesofgwynedd dot com

www.princesofgwynedd.com

pen y dudalen pen y dudalen argraffu’r dudalen hon argraffu'r dudalen hon