Cymeriadau
Siwan
-
Ganwyd yn 1191
-
Bu farw yn Chwefror 1237
-
Yn briod gyda: Llywelyn ap Iorwerth
Roedd Siwan yn ferch anghyfreithlon i Frenin John o Loegr, oedd hefyd yn adnabyddus fel John Plantagenet am fod ei deulu yn hanu o Dŷ Plantagenet. Ychydig iawn a wyddwn am fywyd cynnar Siwan ond credir ei bod wedi treulio cyfnod o'i bywyd yn Ffrainc. Roedd y Brenin John yn gobeithio y byddai dyweddïad a phriodas Siwan gyda Llywelyn ap Iorwerth yn dod a heddwch rhwng Cymru a Lloegr - roedd yn ymladd yn erbyn y Ffrancwyr ar y pryd a'r peth olaf oedd o eisiau oedd ymladd y Cymry hefyd. Dyma Siwan yn priodi Llywelyn yng Nghaer ym mis Mai 1206 pan oedd hi'n 15 oed.
Roedd yr heddwch rhwng Cymru a Lloegr yn ansefydlog ac roedd hi'n werth cael Siwan fel diplomydd gwleidyddol; bu'n ganolwr rhwng ei thad, y Brenin John a Llywelyn ar sawl achlysur. Ar un cyfnod dyma Siwan yn gyrru llythyr at ei thad er mwyn achub bywyd ei llysfab, Gruffydd, a oedd ymysg y carcharorion a gafodd eu crogi i gyd gan y Brenin John.
Yn 1230, cyhuddwyd Siwan o gael perthynas gyda Gwilym Brewys tu ôl cefn ei gŵr. Crogwyd Gwilym a chafodd Siwan ei halltudio am flwyddyn cyn iddi hi a'i gŵr gymodi.
Wedi ei marwolaeth fe sefydlodd Llywelyn briordy yn Llanfaes er cof amdani. Mae ei harch bellach yn Eglwys Biwmares.
Rhestr o Itemau - Cymeriadau
Llywelyn ap Iorwerth
Brwydrodd i uno Cymru a daeth yn adnabyddus fel Llywelyn Fawr.
Manylion
Siwan
Gwraig Llywelyn ap Iorwerth a chanolwr rhwng y Cymry a’i thad John, Brenin Lloegr. (Dach chi ar y dudalen hwn).
Dafydd ap Llywelyn
Y gŵr cyntaf i hawlio’r teitl ‘Tywysog Cymru’.
Manylion
Gruffydd ap Llywelyn
Y mab hynaf a anwybyddwyd a bu diwedd trasig i’w fywyd o ganlyniad i’w ddicter.
Manylion
Llywelyn ap Gruffydd
Tywysog Cyntaf Cymru a gafodd ei adnabod gan y Saeson fel Tywysog Cymru, yn enwog ymysg y Cymry fel ‘Llywelyn ein Llyw Olaf’.
Manylion
Yr Olynwyr
Beth a ddigwyddodd i olynwyr i deitl Tywysog Gwynedd a Thywysog Cymru?
Manylion
www.princesofgwynedd.com
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwestai Betws-y-Coed a'r Cylch