Cymeriadau
Llywelyn ap Iorwerth
Eglwys Trefriw
Llun o 'Cofio',
llyfr gan Ysgol Casmael
Hefyd yn adnabyddus fel: Llywelyn Fawr, Llywelyn I, Tywysog Gwynedd.
-
Ganwyd yn oddeutu 1173
-
Bu farw yn 1240
-
Yn briod gyda Siwan (merch Brenin John o Loegr)
-
Plant:
-
Merched - Gwenllïan (plentyn anghyfreithlon c1196-??), Gwladus Ddu (c1206-1251), Helen/Elen (c1207-1253), Margred/Marred (c1210-????) a merched eraill.
Llywelyn oedd mab Iorwerth Drwyndwn a'i wraig Margred/Marred ferch Madog. Roedd ganddo ddau frawd sef Adda a Dafydd.
Roedd taid Llywelyn, Owain Gwynedd, wedi bod yn Dywysog Gwynedd hyd at ddiwedd ei oes pan rannwyd Gwynedd gan ei ddau ewythr; yn ôl y son roedd tad Llywelyn yn anaddas ar gyfer y teitl am fod ganddo anffurfiad (deformity), roedd yn adnabyddus fel yr ‘un gyda thrwyn wedi torri' neu'r ‘un gyda thrwyn fflat'. Roedd gan Llywelyn hawl i'r teitl ac wedi ymgyrchu daeth yn unig lywodraethwr o Wynedd yn 1200. Yn 1218 drwy Gyfamod Caerwrangon, cydnabuwyd goruchafiaeth Llywelyn yng Nghymru gan Goron Lloegr. Wedi sawl brwydr roedd teyrnas Llywelyn wedi cynyddu'n sylweddol trwy Gymru. Er hynny, am y mwyafrif o'r amser a fu'n teyrnasu, roedd yn brwydro yn erbyn y Saeson neu yn erbyn tywysogion Cymreig eraill.
Roedd y system gyntaf-anedig yng Nghymru yn golygu byddai ystâd Llywelyn, wedi ei farwolaeth, yn cael ei rannu yn gyfartal rhwng ei ddau fab, Gruffydd a Dafydd. Er hynny, dymuniad Llywelyn oedd i'r ystâd aros yn un fel ei fod yn fwy pwerus. Felly, cyhoeddodd mai Dafydd yn unig fyddai'n etifeddu gyda'r Pab a Harri'r III yn cefnogi'r penderfyniad yma. Yn 1238 fe drefnodd Llywelyn fod holl dywysogion Gwynedd yn ymgasglu at eu gilydd ac yn tyngu llw o deyrngarwch at Dafydd.
Erbyn diwedd ei oes fe gafodd Llywelyn yr hyn a gredir i fod yn strôc a dyma'n ymddeol a symud i fyw i Abaty Aberconwy. Yno bu farw yn 1240 a chafodd ei gladdu yn yr Abaty.
Rhestr o Itemau - Cymeriadau
Llywelyn ap Iorwerth
Brwydrodd i uno Cymru a daeth yn adnabyddus fel Llywelyn Fawr. (Dach chi ar y dudalen hwn).
Siwan
Gwraig Llywelyn ap Iorwerth a chanolwr rhwng y Cymry a’i thad John, Brenin Lloegr.
Manylion
Dafydd ap Llywelyn
Y gŵr cyntaf i hawlio’r teitl ‘Tywysog Cymru’.
Manylion
Gruffydd ap Llywelyn
Y mab hynaf a anwybyddwyd a bu diwedd trasig i’w fywyd o ganlyniad i’w ddicter.
Manylion
Llywelyn ap Gruffydd
Tywysog Cyntaf Cymru a gafodd ei adnabod gan y Saeson fel Tywysog Cymru, yn enwog ymysg y Cymry fel ‘Llywelyn ein Llyw Olaf’.
Manylion
Yr Olynwyr
Beth a ddigwyddodd i olynwyr i deitl Tywysog Gwynedd a Thywysog Cymru?
Manylion
www.princesofgwynedd.com
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwestai Betws-y-Coed a'r Cylch